Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01622 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Cwrs amser llawn 1 flwyddyn yw hwn. |
Adran | Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Dysgu Sylfaen, E-gwaraeon |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym. Byddwch chi'n neidio i fyd e-chwaraeon, gan ddysgu am bopeth o gynllunio digwyddiadau a marchnata i hyfforddi, strategaeth gemau a chynhyrchu fideo.
Byddwch chi hefyd yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau meddalwedd a gweld sut mae TG yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant.
Byddwch chi’n canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle i chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Eich llwyddiant yw ein blaenoriaeth. Byddwch chi’n cael Anogwr Cynnydd pwrpasol a fydd yno i'ch cefnogi chi bob cam o'r ffordd. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar waith cyn i chi ddechrau a byddan nhw'n helpu i ymgorffori unrhyw gefnogaeth newydd y gallech chi fod ei hangen drwy gydol eich rhaglen. Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i ffynnu.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg.
I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Er bod gemau yn rhan o’r cwrs, dim ond rhan fach o’ch gwaith asesedig yw hynny, felly byddwch chi’n canolbwyntio ar ystod eang o sgiliau. Ni fydd gennych chi unrhyw arholiadau ffurfiol, gan y bydd eich holl waith yn seiliedig ar aseiniadau, gan gynnwys arsylwadau, tasgau ymarferol a gwaith ysgrifenedig.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Byddwn ni’n eich cefnogi drwy gydol y flwyddyn i gynllunio eich camau nesaf, boed hynny’n symud ymlaen i gwrs E-chwaraeon Lefel 2, cwrs galwedigaethol gwahanol, prentisiaeth, neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025