Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Peirianneg Amaethyddol
Peirianneg Amaethyddol
Peirianneg Amaethyddol
Kubota
AGCO
Bydd ein cyrsiau Peirianneg Amaethyddol yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant hwn sy’n cynyddu’n barhaus. Mae’r gweithdy amaethyddol o’r radd flaenaf safon y diwydiant, ynghyd â’r fferm fasnachol 970 erw yn rhoi’r cyfle i chi ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith masnachol.
Wrth ddefnyddio technoleg arloesol a diweddar, gan gynnwys peiriannau amaethyddol a safle, byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch profiad fel gweithiwr peiriannau neu fecanydd. Bydd y cwrs yn cynnwys pynciau gan gynnwys; gweithredu peiriannau ffermio manwl, awto-lywio GPS, diagnosteg gyfrifiadurol arbenigol, arferion gweithdy, weldio a gwneuthuro, electroneg, hydroleg, brecio, llywio a systemau hongiad.
Rydym wedi cael ein dewis i ddarparu Cynllun Hyfforddi Diploma AGCO ar gyfer Massey Ferguson, Fendt a Valtra, yn ogystal â Chynllun Hyfforddi Diploma Kubota. Byddwch yn cael eich addysgu yn ein gweithdai safon diwydiant gan weithio ar y peiriannau a thechnolegau diweddaraf, gan ddefnyddio offer trwsio a diagnostig o’r radd flaenaf.
Pa Gyrsiau Sydd Ar GaelMynediad i Ddiwydiannau Tir
- 01/09/2025
- Llysfasi
Diploma Lefel 1 mewn Diwydiannau'r Tir
- 01/09/2025
- Llysfasi
Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Peiriannau'r Tir
- 01/09/2025
- Llysfasi
Diploma Technegol Uwch lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol
- 06/10/2025
- Llysfasi
Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma AGCO
- 01/09/2025
- Llysfasi
Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Gofal Tir Kubota
- 01/09/2025
- Llysfasi
Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Kubota
- 01/09/2025
- Llysfasi
Mynediad i Ddiwydiannau Tir
- 01/09/2025
- Llysfasi
Diploma Lefel 1 mewn Diwydiannau'r Tir
- 01/09/2025
- Llysfasi
Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Peiriannau'r Tir
- 01/09/2025
- Llysfasi
Diploma Technegol Uwch lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol
- 06/10/2025
- Llysfasi
Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma AGCO
- 01/09/2025
- Llysfasi
Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Gofal Tir Kubota
- 01/09/2025
- Llysfasi
Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Kubota
- 01/09/2025
- Llysfasi
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho
A oes gennych chi gwestiwn?
Aled Beech
Wedi Astudio – Lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol
Erbyn hyn – Yn astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Harper Adams
“Roedd y cwrs Peirianneg Amaethyddol yn gam agosach at gael fy ngradd, mae’n anhygoel faint ddysgais i yn Llysfasi, y nifer o weithiau rydw i wedi mynd i’r afael â phroblem a chlywed llais y tiwtoriaid Glyn, Gareth neu Simon yn fy atgoffa i o rywbeth a fy nghael i allan o drwbl! Roedd dysgu cymaint o wybodaeth ymarferol a thechnegol wedi galluogi i mi weithio ar lefel uwch yn y diwydiant Peirianneg Amaethyddol.
“Dwi’n teimlo mod gen i fantais dros fyfyrwyr eraill ar fy nghwrs oherwydd cefais i’r profiad ymarferol yn Llysfasi a chael dealltwriaeth dechnegol well o bethau, hefyd cefais fwy o barch gan bobl yn y diwydiant oherwydd fy mod i’n gallu edrych ar rywbeth a dweud wrthyn nhw “mae hwn yn gweithio fel hyn a gall hyn ei drwsio”.
Ymweld â'n horiel
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
Gwybodaeth am Kubota
Mae Kubota yn gwmni gweithgynhyrchu peirianneg byd-eang sy’n arbenigo mewn peirianneg offer adeiladu ac amaethyddol a gofal tir. Mae Kubota yn cyflogi dros 40,000 o bobl ar draws y byd ac mae ganddynt rwydwaith sy’n ymestyn dros 110 gwlad.
Sut rydym yn gweithio gyda Kubota
Mae’r bartneriaeth rhwng Kubota a Choleg Cambria yn gyfle cyffrous sy’n galluogi peirianwyr amaethyddol ifanc i ennill sgiliau ymarferol mewn gweithdy blaenllaw yn y sector a dealltwriaeth ddamcaniaethol o’r sector. Mae’r cyfle hwn yn galluogi myfyrwyr i ‘ennill arian wrth ddysgu’.
Wrth astudio gall bobl ifanc ddisgwyl ennill nifer o gymwysterau, gan gynnwys:
- Diploma Technegol Estynedig Uwch Lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol
- Bagloriaeth Her Sgiliau Peirianneg Amaethyddol
- Sgiliau Hanfodol mewn Rhifedd, Llythrennedd a TG
- Cymwysterau ychwanegol e.e. trinwyr telesgopig, olwynion sgraffinio a weldio ac ati.
Er mwyn cofrestru ar raglen hyfforddi Kubota mae’n rhaid i chi fod mewn cyflogaeth gyda delwriaeth Kubota yn y DU. Os rydych yn llwyddiannus byddwch yn gymwys i wneud cais i ddod yn dechnegydd Kubota dan hyfforddiant.
A oes gennych chi gwestiwn?
Ymweld â'n horiel
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
Gwybodaeth am AGCO
Mae AGCO yn gwmni amaethyddol blaenllaw yn y diwydiant sy’n cynnig ystod eang o beirianneg ac offer. O dractors i ddyrnwyr medi i ddatrysiadau storfeydd graen, mae AGCO yn ceisio darparu amrywiaeth o ddatrysiadau amaethyddol i unrhyw un yn y diwydiant. Mae gan y brand gyrhaeddiad byd-eang ac mae’n bartner dibynadwy i lawer sy’n cynnig datrysiadau clyfar arloesol.
Sut rydym yn gweithio gydag AGCO
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag AGCO i greu Cynllun Hyfforddi Diploma AGCO sy’n galluogi peirianwyr amaethyddol ifanc i gael y cyfle i ‘ennill arian wrth ddysgu.’
Mae’r cymhwyster wedi’i gymeradwyo gan y diwydiant ac mae’n darparu dealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol o’r sector. Mae cynlluniau hyfforddi AGCO wedi helpu llawer o bobl ifanc i ymuno â’r sector peirianneg diwydiannau’r tir yn y DU dros y blynyddoedd.
Ar ôl ei gwblhau mae’r cynllun hyfforddi wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i symud ymlaen i swyddi o fewn delwriaethau AGCO ledled y DU.
Er mwyn cofrestru ar raglen hyfforddi AGCO mae’n rhaid i chi fod mewn cyflogaeth gyda delwriaeth AGCO yn y DU. Os rydych yn llwyddiannus byddwch yn gymwys i wneud cais i ddod yn dechnegydd AGCO dan hyfforddiant.