Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP50237 |
Lleoliad | Llysfasi |
Hyd | Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 2 flynedd llawn amser, 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg ac un diwrnod ar leoliad gwaith yn y diwydiant. |
Adran | Peirianneg Amaethyddol |
Dyddiad Dechrau | 07 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 16 Jun 2028 |
Trosolwg o’r Cwrs
Datglowch Eich Potensial mewn Peirianneg ar y Tir!
Ydych chi'n barod am yrfa ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol? Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi’r holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch chi i gamu'n uniongyrchol i'r diwydiant peirianneg ar y tir ffyniannus.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n llamu i ystod eang o feysydd cyffrous gan gynnwys:
● Iechyd a Diogelwch: Meistroli arferion hanfodol ar gyfer amgylchedd gwaith diogel.
● Prosesau Peirianneg Gwasanaeth a Gweithdy: Deall cyfrifiadau a'r gweithdrefnau sy'n hanfodol ar gyfer cynnal a chadw effeithiol.
● Atgyweirio Systemau Peiriannau a Cherbydau: Byddwch chi'n dysgu sut i atgyweirio gwahanol gydrannau fel peiriannau, systemau trydanol, a systemau hydrolig, a sut i brofi systemau electronig.
● Systemau Trosglwyddo Uwch: Ennill arbenigedd mewn atgyweirio systemau trosglwyddo pŵer mecanyddol, gan gynnwys trosglwyddiadau synchromesh, ‘powershift’, a hydrostatig/hydro-fecanyddol (CVT).
● Atgyweirio Peiriannau: Datblygu'r sgiliau i atgyweirio peiriannau aredig, drilio, taenu, cynaeafu porthiant, a pheiriannau cynaeafu cnwd cyfunadwy neu gwreiddgnwd.
● Technegau Ffermio Manwl Gywir: Archwiliwch dechnolegau arloesol fel systemau canllaw, mapio a thelemateg.
Byddwch chi’n datblygu sgiliau ymarferol gan ddefnyddio technoleg arloesol a chyfoes sy'n cwmpasu peiriannau amaethyddol a phlanhigion.
Eich llwybrau gyrfa ar gyfer y dyfodol
Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau gwerth chweil, gan gynnwys:
● Peiriannydd y Tir
● Gweithredwr Peiriannau
● Contractwr
● Gyrrwr Tractorau
● Arddangoswr
● Rheolwr Safle Gosodedig
● Gweithredwr Chwistrellwr
● Technegydd Peiriannau
● Mecanydd Fferm
Sut fyddwch chi’n Dysgu
Byddwch chi'n dysgu'n bennaf drwy sesiynau ymarferol diddorol yn ein gweithdy blaenllaw yn y sector. Rydym yn defnyddio'r offer a'r peiriannau diagnostig diweddaraf, gan roi profiad ymarferol amhrisiadwy i chi.
Bydd eich dysgu hefyd yn cynnwys:
● Gweithrediadau tractor a gwaith maes
● Gweithgareddau yn y dosbarth
● Ymweliadau â'r diwydiant a siaradwyr gwadd ysbrydoledig
Mae ein partneriaethau cenedlaethol gyda gweithgynhyrchwyr peiriannau amaethyddol blaenllaw fel AGCO, Massey Ferguson, Fendt, Valtra, Kubota, a Kverneland yn golygu y bydd gennych fynediad at dechnoleg a pheiriannau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.
Caiff y cwrs ei gyflwyno trwy ein Canolfan Addysgu Amaethyddol bwrpasol. Byddwch yn elwa o ymweliadau â sioeau a chystadlaethau diwydiant, darlithoedd ac arddangosiadau gan arbenigwyr yn y diwydiant. Hefyd, byddwch yn gwneud defnydd llawn o'n fferm weithredol fasnachol amrywiol 400 hectar, sy'n cynnwys buches odro fawr, unedau eidion a defaid, academi, a choetir a choedwigaeth helaeth.
Profiad Gwaith a Theithiau Addysgol
Mae lleoliadau gwaith yn rhan annatod o'r cwrs hwn. Byddwch yn ymgymryd â lleoliadau amhrisiadwy drwy gydol eich astudiaethau mewn busnes ar y tir perthnasol. Mae'r lleoliadau hyn yn allweddol i ddatblygu eich sgiliau ymhellach, sefydlu cysylltiadau â'r diwydiant, a chryfhau eich rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol. Efallai y bydd gennych chi hyd yn oed y cyfle cyffrous i deithio i Ewrop i ehangu eich profiad!
Mae teithiau addysgol yn rhan bwysig o’r cwrs, lle bydd asesiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal.
Cymwysterau y Gallech eu Cael
Gallech hefyd ennill amrywiaeth o gymwysterau deddfwriaethol a sgiliau hanfodol, gan gynnwys:
● Cymorth Cyntaf
● Gyrru Tractor
● Cerbydau Adeiladu
● Trinwyr telesgopig
● Olwynion sgraffinio
● Chwistrellu plaladdwyr
● Cerbydau pob tir (ATV)
● Sgiliau Rhifedd, Llythrennedd a TGCh

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf)
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi a gallai arwain at fynediad I gwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n dangos eich dysgu yn barhaus drwy gydol y flwyddyn trwy amrywiaeth o asesiadau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich datblygiad.
Mae’r rhain yn cynnwys aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bach, arholiadau, asesiadau synoptig, cyflwyniadau, a chyfnod llwyddiannus o brofiad gwaith.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous. Gallech chi ddilyn prentisiaethau sy’n arwain at gyflogaeth neu symud ymlaen i gwrs Addysg Uwch neu brifysgol gysylltiedig.
Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:
● Peiriannydd y Tir
● Gweithredwr Peiriannau
● Contractwr
● Gyrrwr Tractorau
● Arddangoswr
● Rheolwr Safle Gosodedig
● Gweithredwr Chwistrellwr
● Technegydd Peiriannau
● Mecanydd Fferm
Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:
● Peiriannydd y Tir
● Gweithredwr Peiriannau
● Contractwr
● Gyrrwr Tractorau
● Arddangoswr
● Rheolwr Safle Gosodedig
● Gweithredwr Chwistrellwr
● Technegydd Peiriannau
● Mecanydd Fferm
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025