Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma AGCO

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP50203
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 3 blynedd, gyda chyfnodau bloc rhyddhau o’r gwaith. Byddwch yn y coleg am naw bloc dros dair blynedd. Bydd pob blwyddyn yn cynnwys tri bloc, yn dod i gyfanswm o ddeuddeg wythnos, i’w cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Adran
Peirianneg Amaethyddol
Dyddiad Dechrau
02 Nov 2026
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Cynllun Hyfforddiant Diploma AGCO: Pweru Eich Dyfodol mewn Peirianneg Amaethyddol!

Ydych chi'n barod i lansio gyrfa werth chweil fel peiriannydd amaethyddol? Mae Cynllun Hyfforddiant Diploma AGCO yn bartneriaeth gyffrous rhwng arweinwyr y diwydiant, AGCO ac arbenigwyr addysg peirianneg amaethyddol, Coleg Cambria Llysfasi. Mae'r rhaglen hyfforddi hon, sydd wedi'i chymeradwyo gan y diwydiant, wedi'i chynllunio i'ch helpu i sicrhau swydd o fewn delwriaethau AGCO ledled y DU.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Gyflawni

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer y diwydiant peirianneg ar y tir. Byddwch yn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o:

● Iechyd a Diogelwch: Dysgu am arferion hanfodol ar gyfer amgylchedd gwaith diogel.
● Prosesau Peirianneg Gwasanaeth a Gweithdy: Deall y cyfrifiadau a'r gweithdrefnau sy'n hanfodol ar gyfer cynnal a chadw effeithiol.
● Atgyweirio Systemau Peiriannau a Cherbydau: Byddwch chi'n meistroli sut i atgyweirio peiriannau, systemau cerbydau, systemau trydanol a systemau hydrolig, a sut i brofi systemau electronig.
● Systemau Trosglwyddo Uwch: Datblygu arbenigedd mewn atgyweirio systemau trosglwyddo pŵer mecanyddol, gan gynnwys trosglwyddiadau a chydwyr synchromesh, trosglwyddiadau ‘powershift’, a throsglwyddiadau hydrostatig neu hydro-fecanyddol (CVT).
● Atgyweirio Peiriannau: Byddwch chi'n dysgu sut i atgyweirio peiriannau aredig neu ddrilio, peiriannau taenu, peiriannau cynaeafu porthiant, a pheiriannau cynaeafu cnydau cyfunadwy neu gwreiddgnwd.

Ennill cyflog wrth ddysgu
Mae Cynllun Hyfforddiant Diploma AGCO yn gyfle anhygoel i “ennill cyflog wrth i chi ddysgu”. Drwy gymryd rhan yn llwyddiannus yn y cynllun hwn, byddwch chi’n ennill cymhwyster sydd wedi’i gymeradwyo gan y diwydiant, yn datblygu sgiliau ymarferol gwych drwy raglen sy’n cael ei chefnogi gan wneuthurwr, ac yn ennill cyflog. Mae Cynlluniau Hyfforddiant Diploma AGCO wedi helpu nifer fawr o bobl ifanc i ymuno â sector peirianneg tir y DU yn llwyddiannus.

Byddwch chi’n Dysgu

Bydd eich taith ddysgu yn cynnwys sesiynau ymarferol yn bennaf yn ein gweithdy blaenllaw yn y sector. Mae ein darlithwyr a'n hyfforddwyr sydd wedi'u hyfforddi gan AGCO yn defnyddio'r offer a'r peiriannau diagnostig diweddaraf i roi profiad ymarferol amhrisiadwy i chi. Byddwch yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau dysgu:

● Sesiynau theori
● Gwaith grŵp ac unigol
● Tasgau ymarferol
● Gweithrediadau tractor a gwaith maes
● Gweithgareddau yn y dosbarth
● Ymweliadau a siaradwyr gwadd

Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys Hyfforddiant Technegol Gwneuthurwr yn academi hyfforddi bwrpasol AGCO.
Hwb i'ch Sgiliau gyda Chymwysterau Ychwanegol

Bydd cyfle gennych chi i ymgymryd ag asesiadau allanol ac ennill tystysgrifau cymhwysedd gwerthfawr mewn meysydd fel:
● Gyrru Tractor
● Trinwyr telesgopig
● Weldio
● ATV
● Wagen Fforch Godi
● Olwynion sgraffinio
● Gofal i Gwsmeriaid
● Gosodiadau
● Tymheru Awyr ac Ymdrin ag Oeryddion
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith 1af) a Mathemateg
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Mae’n rhaid I chi fod yn gweithio I ddelwriaeth cymeradwy AGCO (Massey Ferguson, Valtra neu Fendt) fel peiriannydd gwasanaethau dan hyfforddiant.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Byddwch yn dangos eich dysgu yn barhaus drwy gydol y flwyddyn.

Bydd eich asesiadau’n cynnwys aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bach, arholiadau ac asesiad synoptig.


Gall y cwrs hwn arwain at gyfleoedd cyflogaeth cyffrous o fewn delwriaethau AGCO ledled y DU.

Gallech ddilyn rolau fel Peiriannydd Amaethyddol, Peiriannydd Gwasanaeth Maes, Technegydd Gweithdy, neu hyd yn oed swyddi mewn Marchnata a Gwerthu.


Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost