Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Coedwigaeth a Chefn Gwlad
COEDWIGAETH A CHEFN GWLAD
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Llety yn Llysfasi
Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored, sefyll o dan ganopi o goed neu gerdded dros garped o fwsogl ar lawr coetir, yna mae’r rhaglen Coedwigaeth yn berffaith i chi. Rydyn ni wedi’n lleoli yn harddwch Dyffryn Clwyd, y lleoliad naturiol perffaith ar gyfer gwaith bywyd gwyllt ymarferol.
Nid yn unig hynny, cewch gyfle i astudio a gweithio ar amrywiaeth eang o gynefinoedd a safleoedd gan gynnwys coetiroedd, rhosydd a ffriddoedd, yn amrywio o’r arfordir hyd at gopa mynyddoedd yn ystod eich cyfnod yng Ngholeg Cambria. P’un a ydych chi eisiau gweithio mewn cadwraeth, rheoli ystadau gwledig a chefn gwlad, coedwigaeth neu unrhyw beth tebyg, dyma’r lle i astudio.
Pa Gyrsiau Sydd Ar Gael
Rhiannon Bartley
Wedi astudio – Lefel 3 mewn Rheoli Cefn Gwlad
Erbyn hyn – Gweithredwr Cadwraeth yn ELM Ltd
“Gwnes i benderfynu fy mod i eisiau ailgyfeirio fy amser ac egni a’u defnyddio i gael dyfodol sy’n fwy cyson gyda’m persbectif a’m dyheadau. Roedd y cwrs hwn yn ticio bob blwch ar bapur ac yn rhagori ar fy nisgwyliadau. Er i mi ymuno â’r coleg yng nghanol y pandemig, gwnaeth y tiwtoriaid barhau i drefnu cymaint o sesiynau ymarferol a theithiau â phosib, ac yn ystod un o’r sesiynau hyn y gwnes i gyfarfod fy nghyflogwr presennol.
“Dwi wedi cyfarfod nifer o bobl yn y diwydiant ac wedi ymdrochi yn y llu o wybodaeth a phrofiadau a gafodd eu rhannu gan y tiwtoriaid eu hunain ac eraill ar hyd y daith.
“Mae pawb sy’n gweithio gyda Llysfasi ac ar y safle wedi creu amgylchedd agored, cefnogol a chartrefol i fyfyrwyr ffynnu ynddo.”
Dafydd
Wedi astudio – Diploma Estynedig Technegol Tillhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth.
Erbyn hyn – ar ei drydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio gradd israddedig (BSc Anrh) mewn Coedwigaeth a pherchennog y gwasanaeth coed ArborCoed
“Mae’r gwaith academaidd ac ymarferol yn Llysfasi yn cyd-fynd yn dda gyda gwaith o ddydd i ddydd. Gwnes i fwynhau’r ystod o wersi a’r pynciau oedd yn cael eu haddysgu. Mae’r darlithwyr yn hynod brofiadol ac yn llawn gwybodaeth ar ôl gweithio mewn sectorau gwahanol ledled y DU.
“Mae Cambria yn cynnig cyflwyniad gwych i’r diwydiant. Bydd profiad gwaith yn eich galluogi chi i gyfarfod pobl y tu ôl i’r coetiroedd a choedwigoedd ym Mhrydain a bydd yn rhoi llwybr gwych i chi i Brifysgol, cyflogaeth neu brentisiaethau.
“Mae’r sylfaen wybodaeth a wnaeth fy narlithwyr yn Cambria ei roi i mi wedi rhoi cychwyn gwych i mi gyda’m cwrs Prifysgol ac agwedd ymarferol y cwrs Coedwigaeth yn Cambria. Pan nad ydw i yn y brifysgol dwi’n gweithio i mi fy hun fel tyfwr coed a rheolwr coetir ac i dîm contractio nenlinell fel dyn rhoi cadwyni o amgylch coed, dyn llifio a gweithredwr peiriannau nenlinell.”
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho
A oes gennych chi gwestiwn?
Ymweld â'n horiel
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Iâl a Chweched Iâl
17:30
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
17:30
Yng Ngholeg Cambria Llysfasi, rydym yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol sy’n meithrin llwyddiant academaidd a thwf personol. Mae ein llety preswyl yn cynnig mwy na dim ond lle i aros; mae’n gymuned fywiog lle gall myfyrwyr ymlacio, cymdeithasu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Wifi
Ardal Cegin
Ystafell Gemau
Ystafell Ffitrwydd
Ysafelloedd Bwrdd
Mannau Cyfarfod Mawr
Rydym yn blaenoriaethu lles pob myfyriwr, gyda pholisïau yn unol â safonau diogelu cenedlaethol. Mae myfyrwyr preswyl yn elwa o Wardeiniaid ymroddedig sy’n darparu goruchwyliaeth gyda’r nos a thros nos, ochr yn ochr â gwasanaethau cymorth.
Archwiliwch ein dewisiadau llety ac ymunwch â chymuned sydd wedi ymrwymo i’ch llesiant academaidd a phersonol. Am ragor o fanylion am ffioedd, polisïau, neu gymorth i fyfyrwyr, cysylltwch â ni.
Ymholiad Llety
Am ragor o fanylion am lety yn Llysfasi neu i gael gwybod rhagor am brisiau, cysylltwch â ni.
Mae’r taliadau’n cynnwys y flwyddyn academaidd gyfan ac yn cynnwys arlwyo gan gynnwys brecwast a phryd gyda’r nos. Os ydy myfyrwyr yn y coleg am 3 diwrnod, ar leoliadau gwaith neu’n cael eu hanfon adref oherwydd tywydd garw, nid oes gostyngiad ar y ffi unigol a godir.
*Mae’r cyfraddau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn
Caiff prydau bwyd eu gweini yn Ystafell Fwyta’r Coleg ar yr amseroedd canlynol:
Brecwast – 8.00am i 8.30am – (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Pryd Nos – 5.00pm (Dydd Llun i Ddydd Iau) – Deietau Arbennig
Os oes gennych chi unrhyw ofynion deietegol, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm arlwyo.
Dewisiadau bwydlen Halal ar gael ar gais.
Dewisiadau bwydlen fegan ar gael ar gais.
Mae’r Llawlyfr Myfyrwyr yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch llety a’r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl wrth aros ar safle Llysfasi.
Taith Rithwir 360°
Beth mae Ein Myfyrwyr yn ei Ddweud
Gwion
“Mae’r Hostel wedi rhoi rhyddid i mi a dwi wedi mwynhau byw i ffwrdd o gartref. Mae wedi bod yn brofiad gwych i wneud ffrindiau newydd”
Mirain
“Mae cyfle i fynd allan a gwneud gweithgareddau, mae’r cyfleusterau’n dda, a’r ystafelloedd hefyd, mae fel bod yn y Brifysgol”
Ble Ydym Ni?
Coleg Cambria Llysfasi
Ffordd Rhuthun
Llysfasi
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2LB