main logo

Therapïau Harddwch, Sba & Chyflenwol

Play Video

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae Prentisiaeth yn ffordd boblogaidd o fynd i’r diwydiant harddwch ac ewinedd, ac rydych yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol gan ennill cyflog!

Bydd prentisiaid yn cael eu hyfforddi yn eu salonau unigol gan ddysgu’r sgiliau craidd a byddant yn cael eu hasesu yn y gweithle gan ein timau asesu sydd â phrofiad yn y diwydiant.

Bydd angen i’r dysgwyr yn y diwydiant hwn fod yn gyfeillgar, creadigol a gallu gwneud i gleientiaid deimlo’n gartrefol.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth harddwch a gwasanaethau ewinedd ar Lefel 2 a 3.

Diploma Lefel 2 VTCT mewn Therapi Harddwch

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 2 VTCT mewn Gwasanaethau Ewinedd

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 3 VTCT mewn Gwasanaethau Ewinedd

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 23 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Cyfleusterau Harddwch, Sba a Therapïau Cyflenwol

Salon Cambria

Salon Iâl

Canolfan Ragoriaeth Gofal Iechyd a Therapïau

*Yn dod yn Fuan 2024 *

Halle Ennion

Halle Ennion

Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Ar Hyn o Bryd – Prentis Uwch yn The Secret Spa

“Fy swydd ar hyn o bryd ydi prentis uwch ac erbyn hyn mae gen i gymhwyster lefel 2 a dwi wedi dechrau ar fy nghwrs lefel 3 yn barod.

“Fy swydd ar hyn o bryd ydi adeiladu fy rhestr o gleientiaid yn y salon, a dysgu fy sgiliau lefel 4 ar y swydd.

“Mi wnes i fwynhau popeth am astudio gyda Cambria eleni, ond uchafbwynt y flwyddyn oedd cymryd rhan yn sgiliau Cymru ac ennill aur ar gyfer y coleg yng nghategori therapydd harddwch.

“Mae’r cwrs wnes i ei astudio wedi fy helpu i’n fawr gyda deall harddwch yn ei gyfanrwydd ac mae wedi fy mharatoi gyda’r holl wybodaeth dwi ei hangen.”

Dangos rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Wedi Astudio – Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg Safon Uwch

Ar Hyn o Bryd –Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion y BBC

Doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly mi wnes i ddewis ystod o bynciau gwahanol i’w hastudio ar gyfer Safon Uwch. Erbyn hyn dwi’n gweithio i’r BBC fel Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion ac mi wnaetha studio yn Chweched Iâl roi’r hyder a’r sgiliau i fynd ymlaen i’r brifysgol. Mi wnes i wneud ffrindiau anhygoel, roedd gen i athrawon arbennig ac mi wnâi byth eu hanghofio nhw ac mi wnes i fwynhau’n fawr iawn yn Wrecsam!

“Dwi’n edrych yn ôl ar fy amser yn Iâl gyda balchder ac mae gen i atgofion melys, mi wnâi byth anghofio’r profiad!”

Dangos ragor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Apprenticeships-Hairdressing.jpg

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A construction apprentice standing at her desk looking towards the camera

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.