Gwneuthuro a Weldio

A Fabrication & Welding student using a piece of machinery to

Dewch i ddysgu sgiliau gwneuthuro a weldio arbenigol yng Ngholeg Cambria, lle y gallwch chi newid neu ehangu eich gyrfa mewn diwydiant cystadleuol a gwerth chweil.

Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn eich darparu chi gyda’r sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich maes dewisol, p’un ai rydych chi eisiau bod yn Weithiwr Crefft Weldio, Gweithiwr Metal neu hyd yn oed yn Oruchwyliwr Crefft Metal.

Mae ein holl addysgu yn cael ei gynna; yn ein gweithdai arbenigol sy’n adlewyrchu gweithdai go iawn, er mwyn i chi baratoi ar gyfer y dyfodol.

Cyfleusterau Gwneuthuro a Weldio

Gweithdy Gwneuthuro a Weldio

A man in a high visibility jacket

Laurence Turnbull

Wedi astudio – Diploma Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio

Erbyn hyn– Gwneuthurwr yn Boccard

“Cyn hyn roeddwn i wedi treulio 15 mlynedd yn y sector manwerthu ac ar ôl dechrau weldio fel hobi, roeddwn i eisiau ennill y cymwysterau proffesiynol cywir er mwyn dilyn llwybr gyrfa newydd gan fod hyn yn hanfodol i gyflawni’r nodau yma.”

“Ar ôl cwblhau nifer o gyrsiau nos mewn weldio yng Nglannau Dyfrdwy a gyda’r fentoriaeth ges i ar y rhain fe ges i wybod mai NVQ Lefel 3 a Diploma mewn Gwneuthuro a Weldio oedd y safon diwydiant yr oedd angen i mi anelu ati.”

Heb ennill cymhwyster lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio, fyddai dilyn y swydd dwi ynddi heddiw a chyflawni fy nghymhwyster lefel 4 heb fod yn bosibl.”

“Ar ôl hyn dwi wedi parhau gyda fy natblygiad gan wneud NVQ Lefel 4 a Diploma mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg. Yn ogystal â’r rhain dwi wedi cwblhau sawl cwrs nos i ddatblygu fy nghymhwysedd weldio ymhellach.”

“Dwi eisiau diolch i’r tîm Peirianneg yng Nglannau Dyfrdwy ac yn benodol y Darlithoedd Gwneuthuro a Weldio Tony ac Alun, oherwydd heb y mentoriaeth a’r arweiniad parhaus ges i drwy gydol fy amser yno, baswn i heb gyflawni’r llwyddiannau sydd gen i heddiw.”

“Dwi’n fyfyriwr a oedd yn gallu ailhyfforddi yn fy 30au cynnar diolch i argaeledd y dosbarthiadau nos yng Nglannau Dyfrdwy ac yn ddiweddarach fe wnes i symud ymlaen i raglen brentisiaeth rhyddhau am y dydd. Gwnaeth hyn alluogi i mi ailhyfforddi o amgylch ymrwymiadau gwaith a datblygu ar gyfradd a oedd yn gweddu i fy ymrwymiadau personol.”

Dangos Rhagor
News presenter Frankie McCamley

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Show more
Play Video

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Marchnad Nadolig iâl
03/12/2024
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost