Lefel 1 mewn Gwneuthuro a Weldio

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00483
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw, Gwneuthuro a Weldio, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i roi hwb i'ch gyrfa mewn peirianneg? Bydd cwrs Lefel 1 mewn Gwneuthuro a Weldio yn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi ac yn agor drysau i gyfleoedd cyffrous yn y diwydiant.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Yn ystod eich amser mewn Gwneuthuro a Weldio, byddwch chi’n cael profiad ymarferol ac yn datblygu sgiliau ymarferol hanfodol. Byddwch chi’n dysgu am gyflawni gweithrediadau peirianneg yn ddiogel yn ddiogel mewn amgylchedd gweithdy, gan ddefnyddio offer a chyfarpar wedi’u cymeradwyo gan y diwydiant fel peiriannau torri llenfetel ac offer weldio MIG a MAG.

Byddwch chi hefyd yn ymchwilio'n ddyfnach i'r theori y tu ôl i weithio yn y diwydiant peirianneg. Byddwn ni’n eich cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn peirianneg. Byddwch chi hefyd yn paratoi ar gyfer byd gwaith gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyfweliad, cwrdd â chyflogwyr, a pharatoi ar gyfer prentisiaethau.

Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch chi’n cyflawni dau brif gymhwyster:

*City and Guilds 2850-10: Tystysgrif Theori mewn Peirianneg
Gweithio mewn Peirianneg
Gweithio gyda Llenfetelau
Cynnal Prosesau MIG

*Tystysgrif 7682 NVQ City & Guilds mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg: Ymarferol
Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchedd Peirianneg
Ymgymryd â gweithgarwch peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth peirianneg
Cynnal gweithgareddau torri, ffurfio a chyfosod llenfetel
Defnyddio Offer Weldio MIG neu MAG Lled-Awtomatig

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.

Byddwn ni’n pennu Anogwr Cynnydd i chi, a fydd yn eich helpu chi trwy gydol eich amser ar y rhaglen. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw anghenion dysgu ychwanegol yn cael sylw cyn i chi ddechrau. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eich rhaglen i’ch helpu i lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.
4 TGAU gradd E/2 neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg, Cymraeg (iaith 1af) / Saesneg, ar gyfer y rhaglen hon. Neu fod wedi cwblhau cymhwyster cyfwerth yn llwyddiannus.

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o Raglen Lefel Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu’n barhaus drwy aseiniadau yn y coleg, a fydd yn cael eu casglu fel tystiolaeth portffolio ar gyfer y corff dyfarnu. Yn ychwanegol i hyn, bydd arholiadau City and Guilds ac arholiadau sydd wedi eu gosod a’u marcio yn allanol yn cael eu trefnu ar adegau allweddol trwy gydol y cwrs.
Gall y cwrs hwn arwain at gyfleoedd cyflogaeth i hyfforddeion mewn disgyblaethau crefft cyffrous fel:

*Gwneuthuro llenfetel
*Weldio
*Gosod Pibellau
*Adeiladwaith Gwaith Dur

Ar ôl cwblhau eich blwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen i’r Rhaglen Lefel 2 mewn Gwneuthuro a Weldio neu gael gwaith fel Prentis Sylfaen. Yn dibynnu ar delerau’r cyflogwyr, bydd dysgwyr sy’n cael gwaith hefyd yn gallu cael cyfle i symud ymlaen i raglen Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio yn y dyfodol.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost