Diploma Lefel 2 mewn Gwneuthuro a Weldio

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00252
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser – 18 awr yr wythnos.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw, Gwneuthuro a Weldio
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Weldiwch Eich Dyfodol: Gwneuthuro a Weldio!

Barod i danio eich gyrfa mewn peirianneg? Y cwrs City & Guilds hwn yw eich llwybr ymarferol i ddod yn Weldiwr, Gweithiwr Llenfetel, neu Wneuthurwr Medrus.

Byddwch chi’n datblygu ystod gynhwysfawr o sgiliau poblogaidd, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil.
Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch chi’n ennill arbenigedd ymarferol mewn:
● Gwneuthuro llenfetel
● Lluniadu Peirianneg
● Amrywiaeth o dechnegau weldio
● Arferion iechyd a diogelwch hanfodol

Nodwch gall cynnwys yr uned gael ei ddiweddaru i fodloni anghenion y diwydiant lleol, gan sicrhau bod eich sgiliau bob amser yn berthnasol ac mewn galw.

Rhoi Hwb i’ch Sgiliau Craidd

Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch datblygiad cyffredinol. Byddwch chi'n gwella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd a TGAU. Os nad ydych chi wedi cyflawni gradd C/4 mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf eto, byddwch chi'n cael sesiynau cymorth pwrpasol ochr yn ochr â'ch rhaglen alwedigaethol.

Ennill Profiad yn y Byd Go Iawn

Lle bo cyfleoedd ar gael, byddwch chi’n elwa o brofiad gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith, gan eich paratoi ar gyfer gofynion y gweithle modern.

Barod i adeiladu dyfodol cadarn? Gwnewch gais rŵan a rhowch eich hunain ar y llwybr i gael gyrfa lwyddiannus!

Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
● Asesiad Parhaus: Byddwch chi’n cwblhau aseiniadau coleg a fydd yn cael eu casglu fel tystiolaeth portffolio, gan ddangos eich sgiliau a bodloni gofynion y corff dyfarnu.

● Arholiadau: Bydd arholiadau City & Guilds ac arholiadau sydd wedi’u gosod a’u marcio’n allanol yn cael eu hamserlennu ar gamau allweddol drwy gydol eich cwrs.

Mae’r diwydiant gwneuthuro a weldio yn rhoi gwerth mawr ar Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs), Sgiliau Hanfodol, a thystysgrifau City & Guilds. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cymwysterau hanfodol hynny i chi, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.

Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus gallech chi sicrhau cyflogaeth hyfforddai mewn disgyblaethau crefft deinamig fel:
● Gwneuthuro / Weldio Llenfetel.
● Gosod Pibellau
● Adeiladwaith Gwaith Dur

Symud Ymlaen i’r Lefel Nesaf

Ar ôl blwyddyn lwyddiannus, bydd cyfle gennych chi i symud ymlaen i’n Rhaglen Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio, neu hyd yn oed ddechrau ar Brentisiaeth Fodern. Os cewch chi swydd, efallai y bydd gennych chi gyfle hefyd i symud ymlaen i Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio yn y dyfodol, gyda chefnogaeth eich cyflogwr.

Cryfhau Eich Sgiliau Craidd

Rydyn ni wedi ymrwymo i’ch datblygiad cyffredinol. Os nad ydych chi wedi cyflawni gradd 4 mewn TGAU Mathemateg a Saesneg eto, byddwch chi’n cael sesiynau cymorth pwrpasol ochr yn ochr â’ch rhaglen alwedigaethol. Mae hyn yn sicrhau bod gennych chi’r holl offer i lwyddo.
Barod i danio eich potensial?

Gwnewch gais rŵan a dechreuwch eich taith tuag at ddyfodol mwy disglair!


Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost