Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00888 |
Lleoliad | Ffordd y Bers |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs 1 flynedd amser-llawn. |
Adran | Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw, Gwneuthuro a Weldio |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Datblygwch Eich Crefft: Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio!
Ydych chi'n ddysgwr profiadol gyda dealltwriaeth gadarn a chefndir ymarferol mewn peirianneg arbenigol? Mae'r cwrs Lefel 3 hwn wedi'i gynllunio i chi wella'ch sgiliau mewn gwneuthuro a weldio, gan eich gwneud chi’n ased hyd yn oed yn fwy gwerthfawr yn y diwydiant peirianneg.
Beth Fyddwch chi’n ei Feistroli
Bydd y Dystysgrif L3 City & Guilds 2850 mewn Technoleg Peirianneg Gwneuthuro a Weldio uwch yn dyfnhau eich arbenigedd ar draws meysydd allweddol.
Byddwch chi’n cael dealltwriaeth gynhwysfawr a phrofiad ymarferol mewn:
● Iechyd a Diogelwch Peirianneg
● Egwyddorion Craidd Peirianneg
● Egwyddorion Uwch Weldio
● Arc-weldio (MMA) Deunydd â Llaw
● Weldio Deunyddiau dull MIG (gan gynnwys alwminiwm)
● Weldio Deunyddiau dull TIG (gan gynnwys alwminiwm)
● Trefnu a Rheoli Gweithrediadau Peirianneg
● Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
Nodwch gall cynnwys yr uned gael ei ddiweddaru i fodloni anghenion y diwydiant lleol, gan sicrhau bod eich sgiliau bob amser yn berthnasol ac mewn galw.
Rhoi Hwb i’ch Sgiliau Craidd
Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch datblygiad cyffredinol. Byddwch chi’n parhau i fireinio'ch sgiliau llythrennedd a rhifedd, sy'n hanfodol ar gyfer pob agwedd ar yrfa beirianneg.
Ennill Profiad yn y Byd Go Iawn
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch chi’n elwa o brofiad gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith, gan eich paratoi ar gyfer gofynion y gweithle peirianneg modern.
Barod i symud eich gyrfa beirianneg i’r lefel nesaf?
Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â'r sgiliau a'r cymwysterau uwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw!

Cwblhau cymhwyster rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu’n barhaus drwy aseiniadau yn y coleg, a fydd yn ffurfio portffolio o dystiolaeth i fodloni gofynion y corff dyfarnu.
Byddwch chi’n ennill y cymwysterau drwy gymysgedd o aseiniadau ymarferol ac arholiadau ar-lein / ysgrifenedig.

Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â’r wybodaeth ymarferol a damcaniaethol sydd ei hangen arnoch chi i sicrhau prentisiaethau, symud ymlaen i raglen ail flwyddyn, neu hyd yn oed barhau â’ch astudiaethau yn y brifysgol.
Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i Addysg Uwch, cyflogaeth neu/a Phrentisiaeth.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025