main logo

Cyrsiau Niwroamrywiol

Darganfyddwch eich Potensial Rŵan gyda'n Cyrsiau Niwroamrywiol

Os rydych chi’n Niwroamrywiol ac yn chwilio am gwrs a allai ddarparu ar gyfer eich anghenion, mae gennym ni gwrs i chi!

Mae cyrsiau Niwroamrywiol yn Cambria wedi’u dylunio i alluogi unigolion sydd â chyflyrau cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth i lwyddo’n academaidd.

Caiff y cyrsiau eu haddysgu gan staff profiadol ac maent yn cyfuno technegau ymarferol a strategaethau, sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion unigol.

O weithgareddau ymarferol i ysgogiad clywedol, mae’r cyrsiau hyn wedi’u dylunio ar gyfer eich arddull ddysgu delfrydol. 

Gweler isod ragor o fanylion am y cyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.

Sgiliau Bywyd 

Mae’r holl gyrsiau Niwro yn cynnig elfen sgiliau bywyd wedi’i theilwra er mwyn datblygu eich annibyniaeth a sgiliau cyflogaeth fel defnyddio cludiant, gweithio gydag eraill, datblygu sgiliau cyfathrebu a rheoli arian.

Cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer rhaglen Niwro mae’n rhaid i’r holl ddysgwyr fod ag anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth wedi’i gofnodi mewn cynllun addysg e.e. Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Dysgu a Sgiliau (Cymru) neu Gynllun Iechyd a Gofal Addysg (Lloegr).

Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi ym mis Medi. Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

A oes gennych chi gwestiwn?

Ffoniwch neu anfonwch e-bost at ein tîm heddiw am ragor o wybodaeth.

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Previous slide
Next slide