Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP52307
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Niwrodechnoleg yn gwrs cynhwysol sy’n cael ei gefnogi’n llawn, sy'n darparu amgylchedd dysgu sydd fwyaf addas i ddysgwyr ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i fodloni anghenion a galluoedd y rhai sy'n gadael yr ysgol a fyddai'n cael trafferth cael mynediad i'r coleg drwy'r llwybr prif ffrwd traddodiadol.

Mae'r rhaglen unigryw hon yn canolbwyntio ar eich anghenion unigol ac yn darparu amgylchedd dysgu meithringar. Byddwch chi’n mwynhau:

*Taith Ddysgu wedi'i Theilwra: Mae'r rhaglen flwyddyn hon wedi'i chynllunio i'ch helpu i symud ymlaen i addysg bellach, i gyd yn unol â chanlyniadau eich Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP) neu'ch Cynllun Datblygu Unigol (CDU).
*Cyflwyniad i TG: Cewch flas gwych o faes pwnc TG, a fydd yn eich helpu i benderfynu ar eich camau nesaf.
*Sgiliau Bywyd Hanfodol: Mae rhan graidd o'r rhaglen yn cynnwys datblygu sgiliau bywyd hanfodol mewn meysydd fel cyflogadwyedd, iechyd a llesiant, ymgysylltu â'r gymuned, a byw'n annibynnol.
*Profiad yn y Byd Go Iawn: Byddwch chi’n cymryd rhan mewn sesiynau blasu diwydiannol grŵp, gan roi cyfle i chi wella eich sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn amgylcheddau gwaith go iawn.
*Cymwysterau Allweddol: Byddwch chi’n cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Mathemateg a Saesneg ar eich lefel waith eich hun.
*Cymorth Llawn: Caiff y rhaglen hon ei chefnogi’n llawn, gyda chymorth pontio personol gan fentor ASD.
*Meintiau Dosbarth Bach: Dysgwch mewn lleoliad ystafell ddosbarth pwrpasol gyda hyd at 10 o ddysgwyr, gan sicrhau eich bod yn cael sylw manwl.
*Bywyd ar y safle: Byddwch chi wedi'ch lleoli ar ein safle yn Iâl am dri diwrnod yr wythnos.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod â diddordeb yn y maes pwnc a bod ganddynt Gynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal cyfredol sy’n amlinellu anhawster cyfathrebu cymdeithasol cymhleth gyda diagnosis o Awtistiaeth.
Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid.

Asesiadau llinell sylfaen a thargedau unigol a adolygir gan ddefnyddio RARPA.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau AB prif ffrwd neu gyflogaeth.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost