Gwyddor yr Amgylchedd - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA16689
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs Safon Uwch llinol 2 flynedd – cynhelir yr holl asesu ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n angerddol ynglŷn â dyfodol y blaned? Ydych chi eisiau bod yn rhan o'r ateb i heriau amgylcheddol byd-eang? Os felly, mae’r cwrs hwn i chi. Dewch i ennill dealltwriaeth gref o'r amgylcheddau ffisegol a byw a datblygu'r sgiliau i fynd i'r afael â materion byd go iawn fel newid hinsawdd a chynaliadwyedd.

Ydych chi’n barod i gymryd eich cam nesaf? Bydd y cwrs Safon Uwch llinol dwy flynedd hwn yn eich darparu â'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich gyrfa.

Beth Fyddwch Chi’n ei Ddysgu
Byddwch chi'n dysgu am yr heriau mwyaf sy'n wynebu ein planed ac yn archwilio atebion arloesol i'w diogelu. Mae'r cwrs wedi'i rannu'n ddau brif faes, gan eich helpu i ddeall yr amgylchedd fel system gyfan.
* Yr Amgylchedd Ffisegol: Byddwch yn astudio adnoddau ynni, yn dysgu sut i reoli llygredd, ac yn datblygu dulliau ymchwil hanfodol.
* Yr Amgylchedd Byw: Byddwch yn archwilio adnoddau biolegol, yn ymchwilio i egwyddorion cynaliadwyedd, ac yn cymhwyso eich sgiliau ymchwil i senarios byd go iawn.
Byddwch yn meistroli sgiliau allweddol fel ysgrifennu adroddiadau, gwaith tîm a datrys problemau, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Sylwer: Mae TGAU Daearyddiaeth gradd C/4 neu uwch yn ddymunol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich
arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a
gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn sefyll arholiadau ffug mewnol i olrhain eich cynnydd. Ar ddiwedd yr ail flwyddyn, bydd eich gradd Safon Uwch derfynol yn seiliedig ar ddau arholiad allanol, pob un yn werth 50%.
Mae’r sector amgylcheddol yn ddiwydiant sy’n tyfu gyda galw mawr am weithwyr proffesiynol medrus. Gallech fod yn ymwneud â gwaith maes a labordy, cynllunio prosiectau, a hyd yn oed modelu a chodio arloesol. Ni fu erioed amser gwell i fod yn wyddonydd amgylcheddol, gyda rolau newydd yn cael eu creu bob blwyddyn.

Gallai eich diddordeb yn yr amgylchedd arwain at amrywiaeth o lwybrau gyrfa, gan gynnwys:
* Ecoleg
* Cadwraeth bywyd gwyllt
* Asesiad effaith amgylcheddol
* Cynllunio trefol
* Dylunio cludiant
* Acwaddiwylliant

Os byddwch yn dewis symud ymlaen i addysg uwch, bydd cyfle i chi archwilio meysydd newydd fel hinsoddeg, geobioleg, neu fioleg forol.

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost