Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA00044 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i archwilio byd diddorol o’ch cwmpas? Mae Cymdeithaseg Safon Uwch yn bwnc deinamig a diddorol a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae cymdeithas yn gweithio, o dueddiadau diwylliannol i anghydraddoldebau cymdeithasol. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am gymdeithaseg arnoch chi, dim ond diddordeb mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Bydd cymdeithaseg yn rhoi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy i chi, gan gynnwys dadansoddi, asesu a gwerthuso, sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer eich llwyddiant yn y dyfodol. Byddwch yn cymryd rhan mewn dadleuon bywiog ac yn datblygu eich galluoedd dysgu annibynnol, gan eich paratoi i wneud y mwyaf o'ch potensial.
Mae'r cwrs hwn yn dilyn manyleb CBAC ac yn archwilio materion a themâu gan ddefnyddio damcaniaethau a chysyniadau cystadleuol. Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:
* Uned 1 UG: Caffael Diwylliant
Deall y cysyniadau allweddol o drosglwyddo diwylliannol, cymdeithasoli a hunaniaeth.
Archwilio diwylliant ieuenctid yn fanwl.
* Uned 2 UG: Deall Cymdeithas a Dulliau Ymchwilio Cymdeithasegol
Ymchwilio i'r dulliau y mae cymdeithasegwyr yn eu defnyddio i astudio cymdeithas.
Cael cipolwg ar gymdeithaseg addysg.
* Uned 3 Safon Uwch: Pŵer a Rheolaeth
Archwilio thema Trosedd a gwyredd.
* Uned 4 Safon Uwch: Anghydraddoldeb Cymdeithasol a Dulliau Cymhwysol Ymchwiliad Cymdeithasegol
Datblygu eich sgiliau mewn ymholiad cymdeithasegol cymhwysol.
Ymchwilio i wahaniaethu cymdeithasol a haenu.
Mae'r cwrs hwn yn heriol a bydd yn eich helpu i hogi eich sgiliau llythrennedd ar gyfer ysgrifennu traethodau, yn ogystal â sgiliau dadansoddol a gwerthuso ar gyfer ymchwilio i astudiaethau a thestunau.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.
Yng Ngholeg Cambria byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Bydd yr asesiadau mewnol yn defnyddio amrywiaeth o fformatau i alluogi myfyrwyr gael darlun clir o’u cynnydd a’r camau gweithredu i wella. Cynhelir arholiadau ffug mewnol ym mis Rhagfyr. Cynhelir arholiadau allanol ym mis Mai (UG) a Mai/Mehefin (Safon Uwch).
Mae cymhwyster Safon Uwch mewn Cymdeithaseg yn gymhwyster academaidd gwerthfawr iawn, sy’n agor drysau i ystod eang o gyfleoedd addysg uwch cyffrous a gyrfaoedd proffesiynol. Mae cyflogwyr ym mhob proffesiwn yn cydnabod y sgiliau amlbwrpas y mae graddedigion cymdeithaseg yn eu cynnig.
Mae ein myfyrwyr llwyddiannus wedi mynd ymlaen i astudio yn y prifysgolion gorau, gan gynnwys sefydliadau Rhydychen a Chaergrawnt a Grŵp Russell, ac wedi dilyn gyrfaoedd gwerth chweil fel:
* Addysg
* Newyddiaduraeth
* Gwaith Cymdeithasol
* Meddygaeth
* Yr Heddlu
* Y Gyfraith
Mae cymdeithaseg yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer unrhyw ddiwydiant neu fusnes sy’n cynnwys gweithio gyda phobl, boed yn fewnol neu’n wynebu cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys rolau mewn AD, manwerthu, y GIG, y sector elusennol/gofal, gwaith cymdeithasol, a chwnsela, i enwi dim ond rhai.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025