Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA00049 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Barod i ddeall y grymoedd sy’n llunio’n byd? Bydd ein cwrs Economeg Safon Uwch yn eich arfogi chi â dealltwriaeth gadarn o sut mae modelau economaidd yn gweithio mewn sefyllfaoedd go iawn a’ch paratoi chi ar gyfer cyfleoedd gyrfa cyffrous.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Yn ystod y rhaglen ddwy flynedd hon, byddwch chi’n cael profiad go iawn o fyd economeg, gan archwilio micro a macro economeg. Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion economaidd a sut maen nhw’n dylanwadu ar ein bywydau bob dydd.
Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:
* Deall egwyddorion economaidd allweddol
* Archwilio ymddygiad economaidd a’i effaith
* Gwerthuso modelau economaidd cymhleth
* Datblygu sgiliau dadansoddol cadarn ar gyfer heriau byd go iawn
Mae ein rhaglen ddiddorol yn cynnwys amrywiaeth o brofiadau dysgu, o weithdai rhyngweithiol a darlithoedd mewnweledol i siaradwyr gwadd ysbrydoledig a theithiau a chynadleddau gwerthfawr wedi'u cynllunio i wella'ch taith ddysgu.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:
– TGAU Mathemateg gradd B/6 neu uwch ar yr haen uwch.
*Rydym yn cynghori i fyfyrwyr astudio Mathemateg Safon Uwch os ydyn nhw’n dymuno astudio Economeg yn y brifysgol.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Drwy gydol eich cwrs, bydd eich tiwtoriaid yn cefnogi’ch cynnydd trwy asesiadau amrywiol, gan gynnwys traethodau, astudiaethau achos, adroddiadau, profion ac arholiadau.
Mae hyn yn caniatáu i chi wirio’ch dealltwriaeth, nodi meysydd ar gyfer twf, a sicrhau eich bod chi ar y trywydd iawn i lwyddo. Byddwch chi’n cyflawni eich cymwysterau Safon UG a Safon Uwch drwy gwblhau arholiadau yn llwyddiannus ar gyfer pob uned.

Mae Economeg Safon Uwch yn gymhwyster gwerthfawr iawn, sy’n agor drysau i ystod amrywiol o yrfaoedd gwerth chweil a rhagor o astudio. Mae’n bwnc ardderchog i ategu gwyddorau cymdeithasol fel Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, a gall hyd yn oed arwain at beirianneg pan gaiff ei gyfuno â Mathemateg a Ffiseg.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio dramor mewn swydd lywodraethol, mae Economeg yn darparu sylfaen ardderchog, yn enwedig pan gaiff ei pharu ag iaith. I’r rhai sy’n anelu at yrfaoedd mewn cyllid a chyfrifeg, mae Economeg yn arbennig o fuddiol, gyda llawer o gyrff proffesiynol, fel Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig, yn gofyn am ddealltwriaeth o economeg i ennill cymhwyster.
Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gref ar gyfer proffesiynau fel:
* Economegydd a dadansoddwr polisi
* Dadansoddwr ariannol a data
* Bancio a chyllid
* Astudiaeth ac ymchwil academaidd

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025