Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Celf, Crefft a Dylunio (Celf, Crefft a Dylunio, Celfyddyd Gain, Dylunio Tecstiliau, Dylunio 3D a Dylunio Graffeg) - Safon Uwch
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA00069 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio. Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i ryddhau eich creadigrwydd ac archwilio byd o bosibiliadau artistig? Mae'r cwrs Celf a Dylunio Safon Uwch hwn yn rhaglen heriol, werth chweil a chyffrous sydd wedi'i chynllunio ar eich cyfer chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn Celf a Dylunio. Heb arholiadau, mae'n daith sy'n seiliedig ar waith cwrs sy'n eich galluogi i ymgolli'n wirioneddol yn eich angerdd.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Dyma'r arbenigedd Celf a Dylunio ehangaf o'r holl gyrsiau Safon Uwch, gan gynnwys amrywiaeth eang o gyfryngau a thechnegau. Byddwch chi’n ennill sail addysgol gadarn ar gyfer ystod amrywiol o yrfaoedd, gan ehangu eich sgiliau trosglwyddadwy sydd â galw mawr gan gyflogwyr a phrifysgolion fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys datblygu eich creadigrwydd, eich galluoedd datrys problemau, eich dysgu annibynnol, eich sgiliau trefnu a chyfathrebu, a hynny i gyd wrth annog eich potensial creadigol unigryw.
Byddwch chi’n cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol a damcaniaethol, gyda digon o gyfleoedd i arbrofi gydag amrywiaeth o gyfryngau a datblygu sgiliau trwy amrywiol weithgareddau ac arbenigeddau. Mae’r rhain yn cynnwys:
* Ffotograffiaeth
* Tecstiliau
* Ffasiwn
* Celfyddyd Gain
* Darlunio
* Paentio
* Dylunio 3D
* Graffeg
* Gwneud Printiau
Bydd eich gwaith ymarferol yn cael ei gefnogi gan ddadansoddiad beirniadol o ffynonellau ac ymchwil perthnasol. Bydd cyfle i chi archwilio prosesau gan ddefnyddio ein stiwdios celf a dylunio sydd â chyfarpar arbenigol i gynhyrchu eich portffolio gwaith personol. Os ydych chi am arbenigo ar ôl rhan adeiladu sgiliau’r cwrs, gallwch chi ddatblygu eich prosiectau personol eich hun i unrhyw gyfeiriad gyda chefnogaeth ein staff addysgu medrus.
Disgwyliwch weithio gyda deunyddiau celf traddodiadol a'r cyfryngau digidol diweddaraf, gan ddefnyddio cyfrifiaduron iMac o safon y diwydiant a meddalwedd Adobe. Bydd gennych chi gyfleoedd hefyd i gydweithio ag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr. Beth am wella eich astudiaethau drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol, ymweliadau addysgol, arddangosfeydd allanol, a chystadlaethau yn y diwydiant creadigol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg, ynghyd â’r meini prawf canlynol:
Gradd B/6 mewn pwnc sy’n gysylltiedig â Chelf
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Ar Lefel UG, byddwch chi’n cwblhau un uned asesu di-arholiad:
* Uned 1 – Ymholiad Creadigol Personol: Dyma brosiect/bortffolio ymchwiliol estynedig yn seiliedig ar themâu a phynciau sydd yn bersonol ac yn ystyrlon i chi. Caiff ei asesu’n fewnol a’i gymedroli’n allanol.
Ar Lefel Safon Uwch, bydd gennych chi un uned asesu di-arholiad ac un uned arholiad:
* Uned 2 – Ymchwiliad Personol: Mae hwn yn brosiect/portffolio ymchwiliol beirniadol ac ymarferol mawr, manwl, sy’n cynnwys elfen ysgrifenedig estynedig o leiaf 1000 o eiriau.
* Uned 3 – Aseiniad wedi’i osod yn allanol Mae’r aseiniad hwn wedi’i osod gan y corff dyfarnu.
Bydd pob uned yn cael ei hasesu’n fewnol a’i safoni’n allanol.

Mae gan ein myfyrwyr hanes rhagorol o lwyddiant, gan symud ymlaen i brifysgolion gorau a sicrhau cyflogaeth yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae llawer yn defnyddio’r sgiliau a enillwyd o’r cwrs hwn i ddilyn amrywiaeth eang o raddau Celf a Dylunio mewn prifysgolion blaenllaw yn y DU, gan gynnwys sefydliadau mawreddog fel Goldsmiths, Prifysgol y Celfyddydau Llundain, Falmouth, Caeredin, a Glasgow, yn ogystal ag Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen. Yn ddiddorol, mae ein myfyrwyr hefyd wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i gyrsiau mewn Meddygaeth, Gwyddor Fforensig, Saesneg, cyrsiau sy’n gysylltiedig â Busnes, a Gwyddorau Cymdeithasol, gan ddangos cymhwysedd eang y sgiliau y byddwch chi’n eu datblygu.
Gallwch chi hefyd ddewis symud ymlaen i Ddiploma Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio (cynradd).
Mae cyfleoedd Cyflogaeth yn cynnwys:
* Hysbysebu a Marchnata
* Pensaernïaeth
* Crefftau
* Dylunio mewnol / arddangosfa
* Dylunio ffasiwn a steilio
* Ffilm, Teledu, Fideo, Radio a Ffotograffiaeth
* TG, Gwasanaethau Meddalwedd a Chyfrifiaduron
* Cyhoeddi
* Amgueddfeydd, Galerïau a Llyfrgelloedd
* Dylunio Gemau
* Dylunio Graffeg

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025