Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA01210 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i archwilio pŵer geiriau a datgloi safbwyntiau newydd? Bydd Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch yng Ngholeg Cambria yn rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o sut mae ystyr yn cael ei greu mewn testunau llenyddol cyfareddol. Byddwch chin datblygu eich gallu i ymgysylltu'n feirniadol â'r hyn a ddarllenwch drwy drafodaethau ysgogol a gwaith ysgrifenedig craff.
Mae'r cwrs hwn yn berffaith i chi os ydych chi wrth eich bodd yn ymgolli mewn ystod eang o destunau llenyddol. Byddwch chi'n astudio barddoniaeth, rhyddiaith a drama o wahanol gyfnodau, gan ehangu eich gorwelion llenyddol a datblygu gwybodaeth soffistigedig am eirfa dechnegol llenyddiaeth. Byddwch yn barod i archwilio nifer o ddehongliadau o destunau a chael dealltwriaeth gyfoethog o'u cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
* Arholiad Uned 1 Lefel UG (20%) - Rhyddiaith a Drama:
Adran A: Ffuglen cyn 1900
Adran B: Drama
* Arholiad Uned 2 Lefel UG (20%) - Barddoniaeth:
Adran A: Archwiliad beirniadol o farddoniaeth
Adran B: Cymharu Barddoniaeth
* Arholiad Uned 3 Lefel Safon Uwch (20%) - Barddoniaeth cyn 1900 a barddoniaeth sydd heb ei gweld o'r blaen
* Arholiad Uned 4 Lefel Safon Uwch (20%) - Shakespeare
* Gwaith Cwrs Uned 5 Lefel Safon Uwch (20%) - Astudiaeth Rhyddiaith

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.
Nodyn: Ni allwch astudio’r cwrs hwn gydag Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfun UG/Safon Uwch.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Bydd gennych arholiad ffug, a bydd asesiadau rheolaidd yn cael eu gwneud drwy gydol y cwrs i olrhain eich cynnydd a rhoi adborth gwerthfawr i chi.
Mae Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg yn darparu paratoad rhagorol ar gyfer ystod eang o gyrsiau dyniaethau yn y brifysgol, gan gynnwys Llenyddiaeth, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg gyfunol, Ieithyddiaeth, Newyddiaduraeth, y Gyfraith ac Addysg. Mae’r cymhwyster hwn yn ased gwych ar gyfer unrhyw yrfa sy’n gofyn am gyfathrebu effeithiol a meddwl dadansoddol. Os ydych chi’n anelu at Brifysgolion gorau Grŵp Russell, mae Llenyddiaeth Saesneg yn un o’r cymwysterau Safon Uwch sy’n hwyluso, a fydd yn eich helpu i gyflawni eich dyheadau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025