Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth/Digidol) - Safon Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00067
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i gipio'ch gweledigaeth a meistroli celfyddyd creu delweddau digidol? Mae'r cwrs Celf a Dylunio Safon Uwch hwn yn rhaglen astudio heriol, werth chweil a chyffrous sy'n cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn creu delweddau digidol a ffotograffiaeth.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys ystod eang o feysydd ffotograffig, gan gynnwys golygyddol, hysbysebu, ffasiwn, rhaglenni dogfen, celfyddyd gain, ac arferion creadigol. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau creadigol trwy amrywiaeth o weithgareddau ffotograffig, gan archwilio ystod eang o dechnegau, dulliau a delweddaeth arbrofol, ochr yn ochr â phrosesau traddodiadol a digidol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch chi'n cynhyrchu portffolio personol o waith.

Byddwch chi’n ymchwilio i arferion ffotograffig hanesyddol a chyfoes, gan dynnu ysbrydoliaeth o waith eraill, a hefyd yn datblygu eich sgiliau golygu a dadansoddi delweddau eich hun. Bydd y cwrs hwn yn ehangu eich sgiliau trosglwyddadwy gydol oes, fel datrys problemau, dysgu annibynnol ac iaith weledol, a hynny i gyd wrth annog eich potensial creadigol.

Gan ddefnyddio ein stiwdio ffotograffiaeth arbenigol, ein hystafell dywyll wlyb, a'n hystafelloedd Mac digidol, byddwch chi’n dysgu technegau safonol y diwydiant i'ch cefnogi i ddatblygu eich steil artistig a'ch sgiliau cyfathrebu gweledol. Yn rhan annatod o'r cwrs mae cyfleoedd i fynd i weithdai gyda ffotograffwyr a phobl greadigol, ymweld â galerïau ac amgueddfeydd, a chymryd rhan mewn cystadlaethau'r diwydiant creadigol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.


Ar Lefel UG, byddwch chi’n cwblhau un uned asesu di-arholiad:
* Ymholiad Creadigol Personol: Mae hwn yn brosiect/portffolio estynedig, archwiliadol yn seiliedig ar themâu a phynciau sy’n bersonol ac yn ystyrlon i chi. Caiff yr uned hon ei hasesu’n fewnol a’i chymedroli’n allanol.

Ar Lefel Safon Uwch, byddwch chi’n cwblhau dwy uned asesu di-arholiad:
* Uned 2 – Ymchwiliad Personol: Mae hwn yn brosiect/portffolio ymchwiliol beirniadol, ymarferol a damcaniaethol mawr, manwl, sy’n cynnwys elfen ysgrifenedig estynedig o leiaf 1000 o eiriau.
* Uned 3 – Aseiniad wedi’i osod yn allanol Mae’r aseiniad hwn wedi’i osod gan y corff dyfarnu.
Bydd Unedau 2 a 3 yn cael eu hasesu’n fewnol a’u safoni’n allanol.
Yn barod i agor drysau i gyfleoedd newydd cyffrous? Efallai yr hoffech chi symud ymlaen i Ddiploma Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio (cyn-radd), neu gallwch chi barhau â’ch astudiaethau yn y brifysgol neu gael cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol.

Gall y cwrs hwn arwain at gyfleoedd gyrfa mewn meysydd cyffrous fel:
* Ffotograffydd
* Gwaith Curadurol y Galeri
* Rheoli Celfyddydau
* Addysgu/Darlithio
* Golygydd
* Ffotonewyddiadurwr
…i enwi dim ond rhai!
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost