Hanes - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA01209
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi wedi eich swyno gan y gorffennol ac yn awyddus i ddeall sut mae'n siapio ein presennol? Bydd ein cwrs Hanes Safon Uwch yn mynd â chi ar daith anhygoel drwy adegau allweddol yn hanes Prydain ac Ewrop, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Archwilio
Byddwch yn barod i ymchwilio i gyfnodau a dadleuon hanesyddol diddorol:
Blwyddyn 1:
* Hanes Prydain (1603-1714): Archwiliwch y newidiadau arwyddocaol yng nghymdeithas, gwleidyddiaeth Cymru a Lloegr, ac effaith ddofn rhyfeloedd mawr fel Rhyfel Cartref Lloegr. Byddwch yn trafod pynciau o berthnasedd mawr heddiw, gan gynnwys esblygiad pleidiau gwleidyddol, datblygiad lles, a swyddogaeth newidiol y senedd a phŵer y frenhiniaeth.
* Weimar a'r Almaen Natsïaidd (tua 1918-1933): Ymchwiliwch i dirwedd gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol Almaen Weimar. Byddwch chi’n gwerthuso'n feirniadol esgyniad Hitler a'r Blaid Natsïaidd, gan archwilio eu harweinyddiaeth, eu hideoleg a'u propaganda. Byddwch yn barod i drafod cwestiynau hanesyddol allweddol fel, 'Pam y tyfodd y Blaid Natsïaidd mor gyflym?' ac 'A oedd cwymp Gweriniaeth Weimar yn anochel?'

Blwyddyn 2:
* Astudiaeth eang y Ganrif Americanaidd 1890-1990 ar y newid hiliol tuag at Americanwyr Affricanaidd a pholisi'r Unol Daleithiau mewn materion tramor o ynysu i Statws Uwch-bŵer a'r Rhyfel Oer.
* Y Drydedd Reich (1933-1945): Dyfnhewch eich dealltwriaeth o reolaeth y Natsïaid a'i heffaith ar draws yr Almaen ac Ewrop.
* Asesiad Heb Arholiad: Dangoswch eich sgiliau ymchwil ac ysgrifennu drwy gwblhau traethawd estynedig o 3000-4000 o eiriau, sy'n ffurfio 20% o'ch gradd Safon Uwch.


5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a bodloni’r meini prawf canlynol:

-TGAU Saesneg iaith / Cymraeg iaith gyntaf gradd B/6 neu uwch
– TGAU Hanes gradd C/4 neu uwch

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Asesir yr astudiaeth Safon UG trwy ddewis o gwestiynau traethawd strwythuredig, tra bydd yr Astudiaeth Fanwl yn cynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae Hanes Safon Uwch yn eich arfogi ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd mewn galw mawr, gan gynnwys dadansoddi, gwerthuso, ysgrifennu adroddiadau, dadlau ac ymchwilio. Mae’r rhain yn amhrisiadwy ar gyfer ystod eang o yrfaoedd cyffrous, fel:
* Gwasanaeth Sifil
* Y Gyfraith
* Rheolwyr
* Archifydd
* Curadur Amgueddfa
* Swyddi Treftadaeth
* Athro neu Ddarlithydd

Mae hanes yn sylfaen ardderchog ar gyfer amrywiaeth eang o ddiwydiannau ac mae’n cael ei barchu’n fawr yn y farchnad swyddi i raddedigion.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost