Astudiaethau Cyfryngau - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00059
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i astudio byd deinamig y cyfryngau? Bydd y cwrs Astudiaethau Cyfryngau Safon Uwch yn eich cyfarparu gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ei angen arnoch i lwyddo mewn diwydiant cyffrous sy’n symud yn gyflym. Byddwch chi'n ymchwilio'n fanwl i sut mae'r cyfryngau'n siapio ein byd, o'r newyddion y byddwch yn ei ddarllen ar-lein i'r ffilmiau y byddwch yn eu gwylio yn y sinema, a hynny i gyd wrth ddatblygu eich sgiliau cynhyrchu creadigol eich hun.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Blwyddyn 1: Gosod y Sylfeini
Byddwch yn astudio’r cyfryngau trwy edrych ar gysyniadau allweddol fel iaith y cyfryngau, cynrychiolaeth, diwydiannau’r cyfryngau a chynulleidfaoedd. Byddwch yn defnyddio’r cysyniadau hyn mewn ystod o gynnyrch y cyfryngau ac yn edrych ar:
* Gwerthu Delweddau: Dadansoddi sut y mae hysbysebu a fideos cerddoriaeth yn creu ystyr a thargedu cynulleidfaoedd.
* Newyddion yn yr Oes Ar-lein: Darganfod sut y mae newyddion yn cael ei greu a’i ddefnyddio yn y byd digidol sydd ohoni.
* Diwydiannau Ffilm: Siwrnai o gynhyrchiadau lleol Cymru i ffilmiau anferth Hollywood.

Byddwch hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i greu cynyrchiadau cyfryngau eich hun. Byddwch yn:
Cynnal ymchwil a chynllunio eich prosiect.
Creu cynhyrchiad.
Adlewyrchu ar sut y gwnaethoch chi greu cynrychiolaethau a defnyddio arferion i gyrraedd eich cynulleidfa darged.

Blwyddyn 2: Rhagor o fanylder
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn edrych mewn manylder ar amryw o ffurfiau cyferbyniol yn y cyfryngau. Byddwch chi’n astudio:
* Teledu yn yr Oes Fyd-eang: Edrych ar sut y mae teledu wedi esblygu a’i ddefnyddio ar raddfa fyd-eang.
* Cylchgronau: Cyfryngau Prif Ffrwd a Chyfryngau Amgen: Cymharu a chyferbynnu gwahanol fathau o gylchgronnau a’u cynulleidfaoedd.
* Cyfryngau yn yr Oes Ddigidol: Gemau Fideo: Cipolwg ar y byd gemau fideo a’u heffaith ar ddiwylliant.

Byddwch yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y flwyddyn flaenorol ac yn cwblhau tasg ymarferol o greu cynhyrchiad traws-gyfryngol. Mae’r uned yn canolbwyntio ar ymchwil archwiliol a fydd yn cyfrannu at eich cynhyrchiad ac yn arwain at ddadansoddi beirniadol o gysyniad cyfryngol allweddol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Uned 1
Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
24% o’r cymhwyster Safon Uwch
100 marc

Uned 2
Asesiad di-arholiad: asesir yn fewnol a’i gymedroli’n allanol gan CBAC
16% o’r cymhwyster Safon Uwch
80 marc

Uned 3
Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
36% o’r cymhwyster Safon Uwch
90 marc

Uned 4
Asesiad di-arholiad: asesir yn fewnol a’i gymedroli’n allanol gan CBAC
24% o’r cymhwyster Safon Uwch
80 marc

Mae’r cymhwyster hwn yn sylfaen ardderchog ar gyfer addysg uwch mewn Astudiaethau’r Cyfryngau neu feysydd cysylltiedig. Gall hefyd arwain at amryw o gyfleoedd gyrfaol cyffrous yn cynnwys:

* Teledu a Ffilm
* Radio a Newyddiaduriaeth
* Cyhoeddi a Ffotograffiaeth
* Hysbysebu a Marchnata
* Dylunio Gemau, Apiau a Gwefannau

Mae’r rhan fwyaf o swyddi cynhyrchu yn y diwydiant cyfryngau yn swyddi llawrydd. Byddwch angen bod yn greadigol, gallu cyfathrebu’n dda ac wedi eich ysgogi i lwyddo yn y maes cystadleuol hwn.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost