Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA00038 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Addysgir y cynnwys UG yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio. Addysgir y cynnwys UG yn ystod yr ail flwyddyn o astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb angerddol yn y gorffennol ac yn awyddus i ddeall sut mae'n llunio ein presennol? Bydd ein cwrs Safon Uwch Hanes yn mynd â chi ar daith anhygoel trwy adegau allweddol yn hanes Prydain ac Ewrop, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Beth Fyddwch Chi’n ei Astudio
Byddwch yn barod i durio i gyfnodau a thafodaethau hanesyddol diddorol:
Blwyddyn 1:
* Hanes Prydain (1880-1980): Archwiliwch y newidiadau arwyddocaol yng nghymdeithas, gwleidyddiaeth Cymru a Lloegr, ac effaith ddofn rhyfeloedd mawr fel y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Byddwch yn trafod pynciau sy’n berthnasol iawn heddiw, gan gynnwys esblygiad y Wladwriaeth Les, effaith gymdeithasol ac economaidd rhyfel, ffasiwn, cerddoriaeth a mudiadau poblogaidd y 50au, 60au a'r 70au yn ogystal â rôl newidiol merched.
* Gweriniaeth Weimar (c1918-1933): Ymchwiliwch i dirwedd gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol Almaen Weimar. Byddwch yn ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o gynnydd Hitler a'r Blaid Natsïaidd, gan archwilio eu harweinyddiaeth, eu hideoleg a'u propaganda. Byddwch yn barod i drafod cwestiynau hanesyddol allweddol fel, 'Pam wnaeth y Blaid Natsïaidd dyfu mor gyflym?' ac 'A oedd cwymp Gweriniaeth Weimar yn anochel?'
Blwyddyn 2:
* Cyfnod y Tuduriaid (1485-1603): Gwerthuswch achosion a chanlyniadau gwrthryfeloedd, bygythiadau a phrotestiadau ar frenhiniaeth y Tuduriaid, yn ogystal ag effaith economaidd y cyfnod ar y tlodion.
* Yr Almaen Natsïaidd (1933-1945): Hybwch eich dealltwriaeth o reolaeth y Natsïaid a'u heffaith ar draws yr Almaen ac Ewrop.
* Asesiad Heb ei Arholi: Dangoswch eich sgiliau ymchwil ac ysgrifennu drwy gwblhau traethawd estynedig 3000-4000 o eiriau, sy'n ffurfio 20% o'ch gradd Safon Uwch.

5 TGAU gradd C/gradd 4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a bodloni’r meini prawf canlynol:
TGAU Saesneg Iaith / Cymraeg (iaith gyntaf) gradd B/6 neu uwch
TGAU Hanes gradd C/4 neu uwch
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich
arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a
gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Bydd astudiaeth y Cyfnod UG yn cael ei hasesu trwy ddewis o gwestiynau traethawd strwythuredig, tra bydd gan yr Astudiaeth Fanwl gwestiynau wedi’u seilio ar dystiolaeth.
Mae Safon Uwch mewn Hanes yn eich darparu ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt, gan gynnwys dadansoddi, gwerthuso, ysgrifennu adroddiadau, trin a thrafod, ac ymchwil. Mae’r rhain yn amhrisiadwy ar gyfer ystod eang o yrfaoedd cyffrous, fel:
* Y Gwasanaeth Sifil
* Y Gyfraith
* Rheolwr
* Archifydd
* Curadur mewn Amgueddfa
* Swyddi Treftadaeth
* Athro neu Ddarlithydd
Mae Hanes yn sylfaen ardderchog ar gyfer amrywiaeth eang o ddiwydiannau ac yn uchel ei barch yn y farchnad swyddi i raddedigion.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025