Diploma lefel 3 mewn E-Chwaraeon - Marchnata Digidol a Menter

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01423
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, E-gwaraeon
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw i archwilio sector sy'n cyfuno elfennau o chwaraeon, busnes, dylunio gemau, hyfforddi a'r cyfryngau. Byddwch chi'n datblygu cyfuniad pwerus o sgiliau cymdeithasol, corfforol, meddyliol ac ariannol – sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn y gweithle deinamig sy’n bodoli heddiw. Er bod strategaeth, sgiliau a gwaith tîm yn allweddol i lwyddiant, nid chwarae gemau yn unig ydy'r peth pwysig; byddwch chi'n profi gemau ar gyfer asesiadau ac wrth gystadlu yng Nghynghrair Pencampwyr Myfyrwyr Cymdeithas E-chwaraeon Prydain.

Byddwch chi’n astudio pedair uned graidd orfodol:

- Uned 1: Cyflwyniad i E-Chwaraeon
- Uned 2: Sgiliau, Strategaethau a Dadansoddiadau E-Chwaraeon
- Uned 3: Menter ac Entrepreneuriaeth yn y diwydiant E-Chwaraeon
- Uned 4: Iechyd, Llesiant a Ffitrwydd ar gyfer Chwaraewyr E-Chwaraeon
- Uned 5: Digwyddiadau E-Chwaraeon.

Yn ogystal â'r rhain, byddwch chi’n ymchwilio i ddeg uned ddewisol, gan roi'r cyfle i chi ennill gwybodaeth fanwl ar draws amrywiol feysydd e-chwaraeon fel creu cynnwys, dylunio gemau, chwaraeon, y cyfryngau a busnes.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg NEU gwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Mae’r cymhwyster BTEC hwn yn defnyddio cymysgedd o aseiniadau ymarferol, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig, gan roi’r hyder i chi gymhwyso’ch gwybodaeth mewn senarios byd go iawn a’ch paratoi chi ar gyfer addysg uwch. Mae’r dull amrywiol hwn yn caniatáu ichi arddangos eich dysgu a’ch cyflawniadau’n effeithiol, p’un a ydych chi’n gwneud cais i brifysgol neu’n chwilio am swydd. Mae pedwar arholiad/tasg a gaiff eu hasesu’n allanol dros gyfnod dwy flynedd y cwrs.
Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith ar gyfer dysgwyr sydd eisiau mynd yn syth i gyflogaeth yn y diwydiant e-chwaraeon, efallai trwy brentisiaeth, neu sy’n anelu at fynd ymlaen i addysg uwch. Wedi’i gymeradwyo gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain, mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod gan gyflogwyr a bydd yn eich cefnogi chi wrth i chi ymuno ag ystod eang o swyddi o fewn y diwydiant.

Mae’r cymhwyster hwn hefyd yn cynnig y cyfle i ddysgwyr symud ymlaen i ystod eang o raglenni addysg uwch, gan gynnwys graddau baglor.

Mae llwybrau gyrfa posibl yn y diwydiant e-chwaraeon yn cynnwys:
– Chwaraewr e-chwaraeon
– Hyfforddwr tîm
– Trefnydd digwyddiadau
– Sylwebydd a chyflwynydd
– Dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol
– Golygydd cynhyrchu fideo
– Ffotograffydd
– Dylunydd Gemau.

Mae’r cymhwyster hwn yn cronni pwyntiau UCAS ac yn cael ei gydnabod gan ddarparwyr addysg uwch fel un sy’n cyfrannu at ofynion mynediad ar gyfer llawer o gyrsiau cysylltiedig. Pan fyddwch chi’n cwblhau’r rhaglen llawn amser dwy flynedd hon, gallwch chi symud ymlaen i raglenni gradd fel BA (Anrh) mewn Rheoli Digwyddiadau, BA (Anrh) yn y Cyfryngau, neu BA (Anrh) mewn E-chwaraeon, yn ogystal â llawer o raglenni addysg uwch eraill. Cofiwch wirio’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglenni gradd benodol gyda phrifysgolion.

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost