Cyflwyniad i Ffotograffiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18945
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Cwrs gyda’r nos am 10 Wythnos.
Adran
Celf a Dylunio, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
14 Apr 2026
Dyddiad gorffen
23 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs 10 wythnos newydd hwn yn un cyffrous sydd wedi'i anelu at unigolion sydd â diddordeb mewn Ffotograffiaeth ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau mewn cipio delweddau digidol a gwella delweddau. Byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i roi cynnig ar rai o'r technegau a'r prosesau arbrofol sy'n unigryw i ffotograffiaeth ystafell dywyll draddodiadol.

Trwy gymysgedd o ymarfer, dysgu, rhannu ac adfyfyrio, bydd pob sesiwn wythnosol yn cynnwys amrywaieth o dasgau ymarferol mewn gweithdai ac yn yr ystafell ddosbarth.

Yn ogystal â'r sgiliau technegol allweddol, byddwch chi hefyd yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth am rai o’r ffotograffwyr hanesyddol a chyfoes mwyaf arwyddocaol sydd wedi helpu i lunio a dylanwadu ar y maes.

Bydd meintiau dosbarth yn fach ac felly byddwch chi’n cael y sylw un-i-un sydd ei angen arnoch chi i sicrhau eich bod chi’n gadael gyda'r sgiliau i barhau i fireinio eich sgiliau ffotograffiaeth y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Ar ôl deg wythnos, bydd eich sgiliau ffotograffig technegol wedi gwella, gan roi'r hyder, creadigrwydd a dealltwriaeth i chi barhau i archwilio’ch diddordeb mewn ffotograffiaeth.
Bydd cael eich camera DSLR neu ffôn clyfar eich hun yn fantais, ond mae camerâu ac offer fel trybeddau a lensiau amrywiol ar gael y gallwch chi eu defnyddio.
Angerdd a brwdfrydedd dros ffotograffiaeth
Dim asesiad, Asesiad gan Gyfoedion
£295.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost