Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifiadureg (Peirianneg Meddalwedd Uwch/Technoleg Ddigidol)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00897
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i gymryd naid i'r sector sy'n tyfu fwyaf cyflym yn y byd? Mae astudio Cyfrifiadureg yng Ngholeg Cambria yn eich rhoi mewn sefyllfa ardderchog i ffynnu yn ein byd digidol ac i wireddu eich potensial yn llawn.

Mae cyfrifiaduron ym mhobman ac mae gyrfa mewn Cyfrifiadureg yn agor drysau i feysydd cyffrous fel Peirianneg, Busnes, Gwaith Fforensig, Gemau, Amlgyfrwng, neu unrhyw fath o Wyddoniaeth.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Gyflawni
Mae Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifiadureg wedi'i gynllunio i wneud y mwyaf o'ch potensial a'ch rhagolygon cyflogadwyedd. Mae wedi'i addasu i wella'ch sgiliau cyfrifiadurol a rhoi'r cyfle gorau i chi allu sicrhau lle mewn Prifysgol; prentisiaeth neu swydd ar ôl i'r cwrs ddod i ben.

Cwrs dwy flynedd ydy hwn a fydd yn arwain at ennill Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Cyfrifiadureg.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r cyfuniad perffaith o sgiliau i chi er mwyn eich galluogi chi i ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant cyflym hwn. Byddwch chi’n dysgu am nifer o agweddau ar galedwedd a meddalwedd ac yn darganfod sut mae’r rhain yn berthnasol i’r byd go iawn.

Mae'r meysydd y byddwch chi'n dysgu amdanynt yn cynnwys:
Egwyddorion Cyfrifiadureg
Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol
Diogelwch ac Amgryptio Systemau TG
Defnyddiau Busnes o Gyfryngau Cymdeithasol
Datblygu Gwefannau
Graffeg Ddigidol ac Animeiddio
Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadurol
Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd
Effaith Cyfrifiadura
Datblygu Cronfa Ddata Perthynol
Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol
Creu fersiynau rhithwir o adnoddau cyfrifiadurol (Virtualisation)

Yn ystod ail flwyddyn eich cymhwyster, bydd gennych chi gyfle i ddewis gwneud cais i brifysgol drwy broses UCAS, neu ymuno â'r rhaglen TG Uwch.

Bydd y rhaglen TG Uwch yn rhoi sgiliau a chefnogaeth ychwanegol i chi gyda’r nod o’ch helpu chi i symud ymlaen at brentisiaeth neu swydd.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o arddulliau asesu i roi’r hyder i chi allu cymhwyso eich gwybodaeth i lwyddo yn y gweithle a bod gennych chi’r sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch. Mae’r ystod o asesiadau galwedigaethol, ymarferol ac ysgrifenedig, yn caniatáu i chi ddangos eich dysgu a’ch cyflawniadau’n effeithiol wrth i chi gymryd eich cam nesaf, boed hynny’n geisiadau ar gyfer cyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.

Mae BTEC yn defnyddio tri math o asesiad – aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Mae cyfanswm o bedwar arholiad/tasg sy’n cael eu hasesu’n allanol ac sy’n cael eu sefyll dros y ddwy flynedd lawn.
Eich Dyfodol
Mae’r rhai sy’n cyflawni Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC dwy flynedd llawn mewn Cyfrifiadura yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS gan roi dewis eang o opsiynau dilyniant i chi.

Gallwch chi fynd ymlaen i brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth a pharhau i ddatblygu eich gyrfa Cyfrifiadureg.

Mae rhai cyfleoedd posibl ym maes cyfrifiadura yn cynnwys:
Dylunydd Gemau
Dylunydd Gwefannau
Technegydd Cymorth Systemau
Technegydd Cymorth TG
Technegydd Cymorth Seilwaith TG
Dadansoddwr Data
Ymarferydd Technoleg Ddigidol Ddatblygol
Dylunydd Meddalwedd
Dadansoddwr Systemau
Peiriannydd Meddalwedd
Cymorth gyda Systemau
Lluniwr Apiau
Rheolwr Systemau Gwybodaeth

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost