Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00216 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Dysgu Sylfaen |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i ddatgloi eich potensial digidol? Bydd y cwrs llawn amser, blwyddyn o hyd cyffrous hwn yn eich helpu chi i ennill dealltwriaeth gadarn o sut mae TG yn cael ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn ar draws gwahanol ddiwydiannau. Byddwch chi’n datblygu sgiliau ymarferol gan ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau meddalwedd a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer dyfodol gwerth chweil yn y byd digidol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi sylfaen gadarn i chi mewn TG, gan gynnwys sgiliau hanfodol ar gyfer eich twf personol a phroffesiynol. Byddwch chi’n astudio amrywiaeth o unedau, gan gynnwys:
*Bod yn Drefnus: Datblygu sgiliau trefnu allweddol a fydd yn eich helpu chi i lwyddo mewn unrhyw amgylchedd.
*Datblygu Cynllun Cynnydd Personol: Tracio eich llwybr i lwyddiant a gosod nodau clir ar gyfer eich dyfodol.
*Gweithio Gydag Eraill: Dysgu cydweithio'n effeithiol mewn tîm, sgil hanfodol ar gyfer unrhyw weithle.
*Ymchwilio i Bwnc: Darganfod sut i ddod o hyd i wybodaeth a'i defnyddio'n effeithiol, gan feithrin eich galluoedd ymchwil.
Byddwch chi hefyd yn edrych ar chwe uned technolegau digidol cyffrous:
*Datrys Problemau Technolegol TG: Dysgu sut i ddatrys problemau TG cyffredin, gan ddod yn arbenigwr datrys problemau.
*Defnyddio Technolegau Cyfathrebu Digidol: Meistroli'r offer ar gyfer cyfathrebu ar-lein yn effeithiol.
*Creu Taenlenni i Ddatrys Problemau: Manteisio i'r eithaf ar daenlenni. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu, i ddadansoddi data a dod o hyd i atebion.
*Creu Gwefannau: Darganfod hanfodion dylunio gwe a dod â'ch syniadau'n fyw ar-lein.
*Creu Cynnyrch Digidol: Dangos eich ochr greadigol trwy ddylunio a datblygu eich cynhyrchion digidol eich hun.
*Datblygu Animeiddiad Graffig Digidol: Archwilio byd animeiddio a chreu cynnwys gweledol deniadol.
Mae Llythrennedd a Rhifedd yn allweddol i'ch llwyddiant, a byddwn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau hyn drwy gydol y rhaglen. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.
Eich System Gymorth
Rydyn ni’n credu ei bod hi'n bwysig eich cefnogi chi bob cam o'r ffordd! Byddwn ni’n pennu Anogwr Cynnydd i chi, a fydd yn eich helpu chi drwy gydol eich amser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i chi ddechrau ar eich cwrs. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eich rhaglen i’ch helpu chi i lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, sy’n gorfod bod mewn Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.
I bob dysgwr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o raglen Mynediad – mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n yn dangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu trwy arsylwadau, gwaith ymarferol a thasgau ysgrifenedig.
Agorwch ddrysau i gyfleoedd newydd cyffrous! Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch chi wedi’ch paratoi i symud ymlaen at ddysgu ychwanegol, fel cyrsiau TG Lefel 2. Byddwch chi hefyd yn barod ar gyfer rhaglen Twf Swyddi Cymru+, prentisiaeth, neu swydd llawn amser.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025