Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Mynediad Cyfun i Addysg Uwch (AU) - Gofal Iechyd (Dechrau yn Mis Medi)
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP07017 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd, sy’n cael ei gyflwyno trwy ddull dysg gyfunol. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal o fis Medi i fis Mehefin (34 wythnos academaidd). Byddwch chi’n profi dull dysgu deinamig gyda hanner y cwrs yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb ar y safle ar ddydd Iau rhwng 9:15am-6:30pm. Bydd gweddill eich astudiaethau yn cynnwys e-ddysgu ar-lein diddorol, gan roi’r hyblygrwydd i chi ei gwblhau ar amser sy’n gweddu i’ch amserlen yn ystod yr wythnos. Mae rheoli amser personol yn effeithiol yn allweddol er mwyn sicrhau eich bod chi’n llwyddo ar y rhaglen hon. Bydd cynllunio eich amser astudio annibynnol ac ar-lein yn cefnogi eich taith ddysgu yn fawr! |
Adran | , Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 15 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Nod y diploma ydy eich arfogi chi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel prifysgol ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau craidd hanfodol. Gallwch chi archwilio modiwlau fel:
* Deall egwyddorion allweddol gofal iechyd: Darganfod pynciau fel Anatomeg a Ffisioleg a Chymdeithaseg Iechyd.
* Datblygu sgiliau astudio hanfodol: Gwella eich technegau cyfathrebu ac astudio ar gyfer dysgu ar lefel prifysgol.
* Cymhwysiad byd go iawn: Er nad oes angen cyflawni lleoliad gwaith, mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddarparu dealltwriaeth ymarferol.
Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol, gan gynnwys:
* Cyfathrebu
* Sgiliau Astudio
* Rhifedd
Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar y modiwlau penodol sy’n berthnasol i’ch taith dysgu.

TGAU gradd C/4 mewn Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Fathemateg, gyda gradd D/3 o leiaf yn y pwnc arall.
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.
Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn i astudio’r cwrs hwn.
Dylai’r dysgwyr ymrwymo i raglen lefel 3 llawn amser ac i ddatblygu eu gallu i astudio. Mae sgiliau TG yn hanfodol oherwydd bod rhan sylweddol o’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein.
Bydd darpar ymgeiswyr yn cael eu hannog i gysylltu â phrifysgolion i gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Nyrsio yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflawni drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn cynnwys aseiniadau gyda rhywfaint o brofion wedi’u hamseru neu sefyllfaoedd arholiadau. Bydd credydau’n cael eu hennill wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Mae credydau Lefel 3 yn cael eu graddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn cael Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
Agorwch ddrysau i gyfleoedd newydd cyffrous yn y diwydiant gofal iechyd! Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi os ydych chi’n bwriadu symud ymlaen i gyrsiau gradd mewn meysydd fel:
* Nyrsio
* Bydwreigiaeth
* Therapi Galwedigaethol
* Radiograffeg
* Rheoli Iechyd
Mae galw mawr am weithwyr medrus yn y sector gofal iechyd yn y DU, gan gynnig rhagolygon cyflogaeth rhagorol o fewn y GIG a’r diwydiant gofal preifat.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025