Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00350
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd.
Mae’r rhaglen Mynediad yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy gredydau am fodiwlau y gellir eu hastudio’n amser llawn dros gyfnod o flwyddyn (34 wythnos academaidd) o fis Medi i fis Mehefin. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal o 9.30am – 2.30pm (dros 4 diwrnod fel arfer).

Agwedd bwysig o’r rhaglen hon ydy eich gallu personol i reoli amser eich hun. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gwneud cynllun ymlaen llaw ar gyfer faint o amser y byddwch chi’n ei dreulio ar astudio yn y dosbarth ac yn annibynnol. Bydd cael cynllun o’r fath ar waith yn eich helpu chi i lwyddo.
Adran
, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl? Ein cwrs Mynediad i Ofal Iechyd (Yn ystod y dydd) ydy eich cam tuag at yrfa werth chweil yn y sector gofal iechyd, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Gwyddor Parafeddygol, a Phroffesiynau Iechyd Cynghreiriol eraill.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Nod y diploma ydy rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel prifysgol ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau craidd hanfodol. Gallwch chi archwilio modiwlau fel:
* Anatomi a Ffisioleg
* Cymdeithaseg/Seicoleg
* Pynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd

Yn ogystal â phynciau arbenigol, byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol fel cyfathrebu a thechnegau astudio, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd a thwf proffesiynol.

Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol, gan gynnwys:
* Cyfathrebu
* Sgiliau Astudio
* Rhifedd

Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar y modiwlau penodol sy’n berthnasol i’ch taith dysgu.
TGAU gradd C/4 mewn Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Fathemateg, gyda gradd D/3 o leiaf yn y pwnc arall
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.

Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn i astudio’r cwrs hwn.

Rydyn ni’n annog oedolion sydd â phrofiad bywyd a gwaith i wneud cais, hyd yn oed os nad oes ganddynt y gofynion mynediad uchod, gan fod cais pob dysgwr yn cael ei asesu ar sail unigol.

Bydd darpar ymgeiswyr yn cael eu hannog i gysylltu â phrifysgolion i gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Nyrsio yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg.

Efallai y byddwch chi’n cael eich cynghori i gofrestru ar y cwrs Paratoi ar gyfer Astudio a Gyrfaoedd neu gwrs Sgiliau Hanfodol Cymru cyn dechrau’r cwrs Mynediad. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sefyll arholiad TGAU Mathemateg neu Saesneg.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflawni drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn cynnwys aseiniadau gyda rhywfaint o brofion wedi’u hamseru neu arholiadau. Bydd credydau’n cael eu hennill wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Mae credydau Lefel 3 yn cael eu graddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn cael Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
Mae galw mawr am weithwyr proffesiynol medrus yn y sector gofal iechyd yn y DU ac mae cyfleoedd da i gael swydd! Er mai’r GIG ydy’r cyflogwr mwyaf, mae yna hefyd lawer o rolau gwerth chweil o fewn y diwydiant gofal preifat. Ar ôl cwblhau’r diploma hwn, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda i ddilyn cyrsiau gradd a dechrau gyrfa foddhaol mewn meysydd fel:

* Nyrsio
* Bydwreigiaeth
* Therapi Galwedigaethol
* Ymarfer Adran Lawdriniaeth (YAL)
* Proffesiynau Iechyd Cynghreiriol Eraill
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost