Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01420
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Cymerwch eich cam cyffrous cyntaf i'r diwydiant adeiladu gyda'r rhaglen Mynediad hon sydd wedi’i chefnogi’n llawn. Os ydych chi eisiau dysgu am sawl crefft adeiladu a chael ymdeimlad go iawn o'r diwydiant, dyma'r cwrs i chi. Byddwch chi’n magu eich hyder, yn datblygu sgiliau bywyd, ac yn ennill y sylfeini sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen.

Byddwch chi'n dysgu sgiliau hanfodol ac yn ennill dealltwriaeth gadarn o sgiliau crefft sylfaenol o fewn systemau adeiladu. Mae'r cwrs hwn yn llawn tasgau ymarferol, gan eich helpu chi i ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer y gweithle.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:

Bwriad y rhaglen hon ydy’ch helpu chi i wella'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd, gan eich paratoi chi ar gyfer eich lefel nesaf o ddysgu neu swydd yn y dyfodol. Byddwch chi’n datblygu sgiliau bywyd a sgiliau cyflogadwyedd hanfodol mewn awyrgylch cefnogol a chroesawgar.

Byddwch chi’n cael profiad ymarferol yn ein gweithdai ymarferol a fydd yn edrych ar feysydd fel:

- Gosod Brics
- Plastro
- Gwaith Saer ac Asiedydd
- Paentio ac Addurno
- Gosod Trydan
- Sgiliau Plymwaith.

Y tu hwnt i'r gweithdai, byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth trwy weithgareddau cyfoethogi diddorol. Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i roi hwb i’ch hyder a'ch helpu chi i oresgyn unrhyw bryderon, a byddwch chi hyd yn oed yn gweithio tuag at gwblhau cymwysterau lefel mynediad mewn Adeiladu a Gwaith Adeiladu.

Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, a phan fyddwch chi'n barod, bydd cyfle gennych chi i ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Yn ogystal â hyn bydd y cwrs yn cynnwys llawer o dasgau ymarferol a fydd yn cynnig cyfleoedd naturiol i’ch helpu chi i wella eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Byddwch chi'n cael eich cefnogi bob cam o'r ffordd gan eich Anogwr Cynnydd pwrpasol eich hun. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi ar waith o'r dechrau un, ac yn addasu i unrhyw anghenion newydd a allai godi yn ystod eich rhaglen, gan eich helpu chi i lwyddo. Mae'r cwrs hwn i gyd ynglŷn â bodloni eich anghenion unigol a dysgu gwahaniaethau.

Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynnal dros dridiau'r wythnos am flwyddyn, gyda chymysgedd o sesiynau ystafell ddosbarth diddorol, gweithgareddau gweithdy ymarferol (yn Ffordd y Bers), a phrofiadau cyffrous oddi ar y safle.

Byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i gwblhau Gwobr Efydd Dug Caeredin. Yn ogystal â'ch prif gymhwyster adeiladu, byddwch chi’n ennill Tystysgrif Mynediad Lefel 3 City & Guilds mewn Cyflogadwyedd. Mae'r dystysgrif hon yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol sy'n gysylltiedig â'r diwydiant, gan gynnwys ymwybyddiaeth ariannol, hunangyflogaeth, technegau cyfweliad, gwaith tîm, cyfathrebu a llawer mwy. Bydd yn eich paratoi'n uniongyrchol ar gyfer gyrfa mewn adeiladu neu i symud ymlaen i'r lefel nesaf o ddysgu yn eich crefft ddewisol.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddechrau ar y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd i’n helpu ni i ddeall eich anghenion a chefnogi eich taith ddysgu. Byddwch chi hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o unedau i gyflawni eich cymwysterau, a byddwn ni’n eu hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys adeiladu portffolio, prosiectau ysgrifenedig ac ar-lein ac asesiadau ymarferol a fydd yn cael eu cynnal mewn amgylchedd gwaith realistig yn ystod eich sesiynau gweithgareddau gweithdy.

Drwy gydol y cwrs, byddwn ni’n eich helpu chi i gynllunio eich camau nesaf. Gallech chi symud ymlaen i:

*Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol adeiladu o’ch dewis chi
*TSC+
*Cyflogaeth
*Rhaglen yn y gymuned.

Bydd eich Anogwr Cynnydd a’ch Tiwtor penodol yn eich helpu chi i gynllunio eich camau nesaf cyffrous drwy gydol y cwrs ac yn eich cefnogi chi i ddatblygu.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost