C&G Lefel 2 Lletygarwch ac Arlwyo

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01537
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd.




Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i neidio i mewn i ddiwydiant cyffrous ac amrywiol? Mae'r sector lletygarwch ac arlwyo yn ffynnu, gan gynnwys popeth o gaffis a bariau bywiog i fwytai gourmet, gwyliau bwyd prysur, a gwestai moethus. Y cwrs hwn yw eich llwybr i yrfa werth chweil yn y maes deinamig hwn!

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Ar y diploma blwyddyn llawn amser hwn, byddwch chi’n neidio i fyd coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd a diod. Bydd ein gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn eich tywys trwy sesiynau ymarferol yn y pantri, y gegin grwst, a'r gegin. Byddwch chi hefyd yn dysgu sgiliau blaen tŷ, gan gynnwys gweini, barista, sgiliau gwasanaeth bar a dyletswyddau derbynfa ar gyfer swyddogaethau ar y safle ac yn allanol.

Y tu hwnt i'r sgiliau ymarferol, byddwch chi hefyd yn datblygu:
- Sgiliau Hanfodol Cymru ar gyfer eich twf personol a phroffesiynol.
- Eich sgiliau Iaith Gymraeg
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd allweddol.

Mae elfen orfodol o brofiad gwaith wedi'i hymgorffori yn y cwrs hwn, gan roi profiad amhrisiadwy i chi yn y byd go iawn a hybu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ar gyfer y diwydiant. Byddwch chi'n cael profiad yn ein bwyty ein hunain, Bwyty Iâl, ac mewn amrywiol leoliadau lletygarwch allanol. Yn ogystal, bydd gennych chi gyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol cyffrous gyda'r nos a phenwythnosau, lle gallwch chi ymgysylltu'n llawn â chynllunio, paratoi a chyflwyno digwyddiadau i gwsmeriaid

4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu gwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddo gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Bydd yna archwiliad sgiliau i sicrhau eich bod chi ar y lefel gywir.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i sicrhau eich bod yn hyderus yn eich galluoedd. Byddwch yn cael eich asesu drwy arsylwadau, aseiniadau ysgrifenedig, a phrofion synoptig amseredig ar gyfer eich unedau coginio, lle byddwch chi’n creu prydau unigol yn seiliedig ar feini prawf y cwrs. Bydd eich sgiliau bwyd a diod yn cael eu hasesu mewn amgylcheddau gwaith go iawn, gan gynnwys y bwyty, digwyddiadau, swyddogaethau, ac yn ystod eich profiad gwaith. Bydd rhywfaint o’ch gwybodaeth sylfaenol yn cael ei hasesu gan ddefnyddio profion papur byr.
Mae cymhwyster mewn lletygarwch ac arlwyo yn llwybr rhyngwladol i fyd o waith cyffrous! Mae’r diwydiant hwn yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn y DU, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser ar gael bob blwyddyn.

Gall y cymhwyster hwn agor drysau i ystod eang o rolau lletygarwch, gan gynnwys:
– Staff bar
– Gwasanaeth byrddau a chownter
– Cymorthydd Cegin
– Cadw Tŷ
– Gweinyddu
– Chef
– Chef Crwst

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost