Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01460
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
4 diwrnod yr wythnos yn y coleg o 9am-4.45pm.

Bydd disgwyl i ddysgwyr fynd i rai sesiynau gyda’r nos. Bydd dysgwyr yn cael amserlen yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster ‘barod i weithio’ sy’n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau angenrheidiol i chi weithio'n gymwys fel therapydd harddwch. Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn sicrhau cyfrifoldeb i leihau risgiau i iechyd a diogelwch, hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gleientiaid, datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith, darparu triniaeth gofal croen yr wyneb, gwella ymddangosiad aeliau a blew, cynnal gwasanaethau cwyro a darparu triniaethau i’r traed a’r dwylo ac ewinedd gel.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys elfen ymarferol, theori ac arholiadau. Enghraifft o rai o’r pynciau y byddwch chi’n eu hastudio ydy; anatomi a ffisioleg, iechyd a diogelwch, a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau. Felly mae disgwyl y bydd dysgwyr yn astudio yn eu hamser eu hunain yn ychwanegol at y sesiynau sydd wedi’u hamserlennu yn y coleg, i gwblhau gwaith sy’n cael ei osod fel gwaith cartref.

Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn meithrin eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaethau i gwsmeriaid, eu gwybodaeth am gynaliadwyedd amgylcheddol a’u sgiliau masnachol. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar y rhain i gyd. Bydd sgiliau datrys problemau, gwaith tîm, ac ymchwilio hefyd yn cael eu meithrin.

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith yn rheolaidd yn ein salon harddwch a sba o’r radd flaenaf wrth astudio eu cymwysterau. Mae meithrin sgiliau cyflogadwyedd yn elfen hanfodol o’r cwrs hwn

Yn ogystal â chymhwyster Lefel 2 Harddwch a Ewinedd, mae'r maes dysgu rhaglen yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i'r cwrs:
● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau iaith Gymraeg
● Datblygu Llythrennedd a Rhifedd
● Rhaid i bob dysgwr gwblhau Lleoliad Gwaith

Sylwch y gall eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda'r nos. Dyddiadau yn cael ei ddarparu gan eich tiwtor ar y cyfnod Sefydlu.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sy’n gorfod cynnwys cyflawniad rhifedd a llythrennedd

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Asesir gwaith cwrs yn barhaus:

● Asesiadau ymarferol
● Arholiadau
● Portffolio tystiolaeth
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 NVQ VTCT mewn Therapi Harddwch (llwybrau Harddwch a Sba) neu Ddiploma Lefel 2 mewn Celfyddyd Gwallt.

Gweithio fel Therapydd Harddwch yn y diwydiant harddwch mewn salonau a sbâu masnachol neu gownter manwerthu harddwch.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost