Diploma NVQ VTCT lefel 2 mewn Trin Gwallt ar gyfer dysgwyr 19 oed a hŷn

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01579
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Bydd angen rhai sesiynau gyda’r nos.


Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Eich Siwrnai i Ddod yn Weithiwr Proffesiynol Trin Gwallt yn Dechrau Yma!

Ydych chi'n 19 oed neu'n hŷn ac yn breuddwydio am yrfa ddeinamig mewn trin gwallt? Mae'r Diploma NVQ Lefel 2 VTCT hwn wedi'i gynllunio i roi'r holl sgiliau a gwybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddod yn Drinwr Gwallt neu'n Steilydd Gwallt Iau llwyddiannus. Byddwch yn barod i ddatgloi eich potensial creadigol a chamu i mewn i ddiwydiant cyffrous!

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Mae'r cymhwyster hwn sy’n eich paratoi at swydd yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy'n golygu y byddwch chi'n ennill y sgiliau y mae cyflogwyr wir yn chwilio amdanynt. Byddwch chi'n treulio tridiau'r wythnos yn y coleg a hynny o fis Medi i fis Mehefin, gyda rhai sesiynau achlysurol gyda'r nos y bydd eich tiwtor yn eu cadarnhau.

Byddwch yn meistroli technegau hanfodol fel:
- Trin a steilio gwallt
- Lliwio a goleuo gwallt
- Ymgynghoriad â chleientiaid
- Golchi gwallt gyda siampŵ a chyflyrydd.

Yn ogystal â'r sgiliau craidd hyn byddwch yn edrych ar ystod o unedau dewisol a ddewisir ar ddechrau'r flwyddyn academaidd gan deilwra yr hyn y byddwch yn ei ddysgu ar gyfer anghenion y diwydiant.

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sy’n rhaid cynnwys cyflawni cymhwyster rhifedd a llythrennedd.

Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ i astudio’r cwrs hwn.

Mae gwaith cwrs yn cael ei wneud trwy asesu parhaus trwy arsylwi ymarferol, aseiniadau ac arholiadau.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu Therapi Harddwch neu Brentisiaeth Fodern mewn Trin Gwallt.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost