Diploma lefel 2 mewn Therapi Harddwch, Colur ac Ewinedd

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00278
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Datgloi eich potensial gyda'n Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch! Mae’r cwrs llawn amser, blwyddyn o hyd a chyffrous hwn yn cynnig eich cam cyntaf at yrfa werthfawr yn y diwydiant harddwch bywiog.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Byddwch chi'n ennill sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol mewn meysydd allweddol fel anatomeg a ffisioleg, iechyd a diogelwch, a thechnegau ymgynghori â chleientiaid. Cael profiad ymarferol o weithio gyda brandiau proffesiynol fel Dermalogica a brandiau ewinedd blaenllaw. Byddwch yn meistroli ystod o wasanaethau yn cynnwys:

- Triniaethau i’r dwylo a’r traed
- Cwyro
- Triniaethau i’r amrannau a’r aeliau
- Triniaethau i’r wyneb
- Coluro.

Byddwch chi'n cyflawni'r gwasanaethau therapi harddwch hyn ar gleientiaid masnachol sy'n talu am y gwasanaethau gan roi profiad amhrisiadwy i chi yn y byd go iawn. Y tu hwnt i'r sgiliau technegol byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid gwerthfawr iawn, ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a galluoedd datrys problemau.

Sefwch allan o'r dorf! Bydd cyfleoedd hefyd i gystadlu'n lleol ac yn genedlaethol mewn cystadlaethau harddwch mawreddog.

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith gyntaf) a Mathemateg. neu cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu’n barhaus drwy waith cwrs a byddwch yn adeiladu portffolio parhaus o’ch cyflawniadau.
Mae cyfleoedd cyffrous o’ch blaen yn dilyn eich cymhwyster lefel 2. Gyda’r sgiliau rhagorol a ddysgwyd gennych, gallwch fynd yn syth i’r diwydiant gan weithio mewn salon stryd fawr brysur, sba moethus neu gonsesiynau manwerthu harddwch.

Eisiau mynd ymhellach? Bydd gennych ddigon o gyfleoedd i ddatblygu, gan gynnwys:

– Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch
– Diploma Lefel 2 mewn Celfyddyd Gwallt a Cholur
– Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig, Effeithiau Arbennig a Gwallt a’r Cyfryngau.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost