Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Torri Gwallt Dynion

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01495
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Ar rai achlysuron bydd disgwyl i chi fynychu digwyddiadau gyda’r nos.


Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i fynd â'ch sgiliau torri gwallt dynion i'r lefel nesaf? Mae'r cwrs uwch hwn wedi'i gynllunio i'ch arfogi â'r arbenigedd sydd ei angen i ffynnu fel barbwr proffesiynol, p'un ai ydych chi'n breuddwydio am weithio mewn siop barbwr prysur neu lansio eich busnes eich hun.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Mae’r cymhwyster yn adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol ac yn meithrin sgiliau technegol manylach a gwell sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth. Byddwch yn ennill dealltwriaeth gref o’r grefft a’r busnes torri gwallt dynion.

Mae unedau gorfodol yn cynnwys:
- Darparu gwasanaethau ymgynghori cleientiaid
- Torri’r gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau torri gwallt dynion
- Dylunio a chreu amrywiaeth o siapiau gwallt ar y wyneb
- Darparu gwasanaethau eillio.

Er mwyn sicrhau bod gennych ystod eang o sgiliau ar gyfer y diwydiant byddwch hefyd yn dewis o leiaf ddwy uned ddewisol o blith detholiad o ddeg. Mae'r rhain yn cynnwys unedau ar "Busnes yn y Diwydiant Gwallt a Thorri Gwallt Dynion" i'ch cefnogi i ddeall sut i sefydlu ac i wneud y mwyaf o lwyddiant eich busnes eich hun neu'r rhai y byddwch chi'n gweithio ynddynt. Rydym hefyd wedi cynnwys unedau dewisol fel gofal croen wyneb i ehangu eich arbenigedd.
Lefel 2 NVQ mewn Torri Gwallt Dynion
Neu
Cwblhau Cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt yn llwyddiannus a phrofiad o weithio mewn Siop Torri Gwallt Dynion (yn amodol ar archwiliad sgiliau).



Byddwch yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau ymarferol ac yn cael eich asesu’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Byddwn yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol trwy aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau.
– Siopau barbwr/salonau masnachol
– Gweithio’n annibynnol, hunan-gyflogedig, symud o le i le neu weithio o gartref
– Gweithgynhyrchu cynnyrch a hyfforddiant
– Gwasanaethau arfog
– Gwasanaeth carchardai EF
– Llongau Mordaith
– Ysbytai/cartrefi gofal

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost