Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig, Effeithiau Arbennig a Chyfryngau
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01034 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. |
Adran | Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol |
Dyddiad Dechrau | 03 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Yn barod i drawsnewid eich brwdfrydedd mewn colur yn yrfa ddeinamig? Bydd y Diploma Lefel 3 cyffrous hwn yn datblygu ac yn gwella eich sgiliau uwch ac yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant colur theatrig a chyfryngau bywiog. Byddwch chi'n cael profiad ymarferol o greu colur effeithiau arbennig ar gyfer cystadlaethau, sesiynau tynnu lluniau, teledu a theatr gan agor drysau i fyd o bosibiliadau creadigol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi’r sgiliau creadigol sydd eu hangen arnoch i ragori. Er bod gwybodaeth sylfaenol o raglen Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur y Cyfryngau yn hanfodol, byddwch yn astudio ystod o unedau diddorol gan gynnwys:
* Coluro i’r cyfryngau
* Dylunio gwallt yn greadigol
* Colur ffasiwn a ffotograffaidd
* Sgiliau datblygedig celf y wyneb a’r corff
* Colur cuddliw.
Yn ogystal â'r meysydd arbenigol hyn bydd eich taith ddysgu hefyd yn cynnwys elfennau hanfodol i hybu eich datblygiad proffesiynol cyffredinol:
* Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
* Datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd a datblygu sgiliau Cymraeg.

Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus ac mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.
Byddwch yn dysgu trwy asesiad parhaus o aseiniadau ymarferol, damcaniaethol ac arholiadau.
Ar ôl cwblhau’r diploma hwn byddwch yn gymwys i ddilyn llwybrau cynnydd cyffrous, boed hynny’n symud ymlaen at Addysg Uwch neu’n mynd i weithio’n syth i’r sector colur creadigol. Mae’r cyfleoedd yn y diwydiant hwn yn amrywiol iawn ac yn cynnwys ffilm, ffasiwn, teledu neu’r theatr. Os ydych chi’n bwriadu symud ymlaen at Addysg Uwch bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ennill y pwyntiau UCAS sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth bellach.
Mae’r diwydiant colur yn llwybr gyrfa gwirioneddol ddeinamig ac yn aml yn broffidiol. Gyda chynnydd cyfryngau cymdeithasol mae celfyddyd colur ar flaen y gad o ran ffasiwn a’r cyfryngau gan gynnig rhwydwaith o arbenigeddau o deledu a ffilm i gelf briodasol neu gelf wyneb a chorff. Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant hwn yn hunangyflogedig gan roi’r hyblygrwydd i adeiladu eich brand a’ch portffolio eich hun.

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025