Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Trin Gwallt

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01265
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Dewch i ryddhau eich ochr greadigol!

Yn barod i gymryd eich cam cyntaf i’r byd trin gwallt? Bydd ein Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt yn rhoi’r sgiliau i chi i ddod yn driniwr gwallt llwyddiannus yn y diwydiant deinamig a chyflym hwn. Byddwch chi'n cael profiad ymarferol gyda brandiau gwallt proffesiynol fel L'Oréal, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ym mhob agwedd ar drin gwallt. Byddwch yn:
- Datblygu gwybodaeth hanfodol am anatomeg a ffisioleg sy'n berthnasol i drin gwallt
- Deall gofynion iechyd, diogelwch a chyfreithiol hanfodol ar gyfer steilwyr gwallt
- Meistroli celfyddyd ymgynghori â chleientiaid
- Ennill sgiliau ymarferol mewn amrywiaeth o wasanaethau torri, lliwio a goleuo sylfaenol
- Dysgu technegau gosod, gwisgo a sychu gwallt
- Gwella eich sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid – sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr
- Datblygu ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a sgiliau datrys problemau.

Ochr yn ochr ag astudiaeth ddamcaniaethol, bydd dysgwyr yn cael profiad ymarferol trwy sesiynau profiad gwaith rheolaidd yn ein salonau masnachol a gweithdai pwrpasol. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio'n sylfaenol ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Ochr yn ochr â hynny, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid, eu hymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a'u sgiliau masnachol, sydd i gyd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.

Mae'r cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2 yn cynnwys y cydrannau cwrs gorfodol canlynol:
● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
● Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau cyfnod mewn lleoliad gwaith

Sylwch y gallai eich amserlen gynnwys rhai sesiynau achlysurol gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau i chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.



4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg. Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus, y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Asesir gwaith cwrs yn barhaus a gall dysgwyr ennill lefel cyrhaeddiad Llwyddo.
Ar ôl cwblhau’r diploma hwn yn llwyddiannus, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda i symud ymlaen i’n cwrs Trin Gwallt Lefel 3 neu ddechrau ar Brentisiaeth Fodern mewn Trin Gwallt. Agorwch ddrysau i gyfleoedd newydd cyffrous yn y diwydiant creadigol.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost