Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00490 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser i ddechrau, gydag estyniad at yr ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig. |
Adran | Chwaraeon a Ffitrwydd |
Dyddiad Dechrau | 02 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth i chi o chwaraeon a ffitrwydd corfforol, gan ddarparu efelychiad realistig o amgylchedd gwaith o fewn y diwydiant. Byddwch chi’n ymdrin â naw uned ar ffurf prosiect, gan gynnwys:
- Prosiect Perfformiad ac Arweinyddiaeth
- Hyfforddi Chwaraeon
- Arwain mewn chwaraeon
- Chwaraeon Tîm Ymarferol
- Prosiect Cyrchfannau'r Dyfodol
- Paratoi ar gyfer Gyrfa mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
- Profiad gwaith mewn chwaraeon
- Datblygu Chwaraeon
- Prosiect Iechyd a Ffordd o Fyw, sy'n cynnwys Ymarfer Corff, Iechyd a Ffordd o Fyw, Profi Ffitrwydd ar gyfer Chwaraeon, a Hyfforddi Gweithgaredd Corfforol ac Ymarfer Corff.
Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (WBQ) uwch wedi'i gynnwys yn y rhaglen hon, sy'n eich helpu i ddatblygu sgiliau a rhinweddau personol sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer cymwysterau ychwanegol, a bydd disgwyl i chi wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg neu gwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.
Mae diddordeb brwd mewn cymryd rhan mewn chwaraeon, hyfforddi neu ddyfarnu yn ofyniad gorfodol i bob ymgeisydd.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.

Bydd eich asesiad yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau rhyngweithiol, podlediadau, fideos, cyfweliadau panel, perfformiad ymarferol, cyflwyno sesiynau hyfforddi, a phrofiad gwaith llwyddiannus. Caiff pob uned ei hasesu a’i graddio, gyda gradd gyffredinol o lwyddo, teilyngdod, neu ragoriaeth. Bydd angen i chi hefyd gwblhau’r oriau dysgu dan arweiniad angenrheidiol.
Ar ôl cwblhau ail flwyddyn y rhaglen (Y Diploma Estynedig mewn Chwaraeon), gallwch chi ddilyn astudiaethau academaidd pellach mewn sefydliadau Addysg Uwch. Fel arall, gallwch chi ddod o hyd i waith yn y diwydiant Chwaraeon/Hamdden mewn rolau fel hyfforddi chwaraeon, hyfforddiant personol, hyfforddi mewn campfeydd, gwasanaethau hamdden, neu hyd yn oed gyda lluoedd EF, yr Heddlu, neu’r Gwasanaeth Tân.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025