Diploma Lefel 2 mewn Chwaraeon

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01505
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma NCFE Lefel 2 NCFE llawn amser hwn mewn Chwaraeon wedi'i gynllunio i'ch trochi ym myd cyffrous chwaraeon a ffitrwydd. Mae cynnwys y cwrs wedi'i rannu'n saith uned ar draws tri phrosiect galwedigaethol, gan roi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o'r diwydiant.

Beth fyddwch chi’n ei astudio:

* Datblygu Sgiliau Ymarferol: Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar brofiad ymarferol, gan gynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon, datblygu eich sgiliau chwaraeon, a gwella eich ymwybyddiaeth dactegol
* Gweithio ym myd Chwaraeon: Byddwch chi'n archwilio ochr broffesiynol chwaraeon trwy unedau fel hyfforddi chwaraeon, gwirfoddoli mewn chwaraeon, a chynllunio a chynnal digwyddiad chwaraeon
* Iechyd a Ffordd o Fyw: Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i hanfodion llesiant, gan gynnwys cyflwyniad i ymarfer corff a maeth iach, a datblygu ffitrwydd personol trwy hyfforddiant.


4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg neu Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu’n barhaus trwy amrywiaeth o ddulliau deniadol, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau rhyngweithiol, podlediadau, fideos, cyfweliadau panel, perfformiad ymarferol, a chyflwyno sesiynau hyfforddi. Caiff pob un o’r saith uned eu hasesu’n fewnol a’u graddio ar lefelau llwyddo, teilyngdod a rhagoriaeth.
Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer symud ymlaen o bosibl i gymhwyster Chwaraeon Lefel 3 neu ar gyfer cyflogaeth ar lefel sylfaen o fewn y diwydiant chwaraeon.

Sylwch: Efallai y bydd angen prynu cit ar gyfer rhai cyrsiau. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu am restrau cit.


Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu rhestr o offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost