UAL Lefel 3 Diploma mewn Celf a Dylunio

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00165
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Gellir dilyn y Diploma Lefel 3 fel Diploma blwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn. Mae'r cwrs yma wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i chi symud ymlaen i astudiaeth Lefel Gradd mewn Celf a Dylunio neu i ddechrau cyflogaeth. Mae'n cynnig cyfle i'r rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd o fewn strwythur cymwysterau ysgogol a heriol, gan ddarparu trosglwyddiad cefnogol o Addysg Bellach i Addysg Uwch.

Mae'r Diploma a'r Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio yn pwysleisio dysgu profiadol ac integredig. Mae'r cymwysterau yma yn canolbwyntio ar gymhwyso sgiliau ymarferol gan gydnabod egwyddorion cyffredin a nodweddion nodedig amrywiol ddisgyblaethau Celf a Dylunio. Byddwch chi’n datblygu sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol trwy broses o ailadrodd ac atgyfnerthu, gan arwain at arferion gwaith effeithiol sy'n cefnogi creadigrwydd ar draws ystod o weithgareddau ysgogol a chynyddol heriol.

Byddwch chi’n ennill sgiliau trwy weithgareddau amrywiol, gan gynnwys gweithio mewn 2D, 3D a 4D, fel lluniadu o arsylwadau, peintio, tecstilau, gwneud crefftau, celf ddigidol, animeiddio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a cherameg. Bydd cyfleoedd i weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr wrth eu gwaith. Byddwch chi hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol, ac ymweliadau addysgol i ategu eich astudiaethau. Mae eich rhaglen dysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau gan gynnwys Bagloriaeth Cymru.
5 TGAU graddau C/4 gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a gradd B/6 mewn Celf a Dylunio, neu gwblhau rhaglen Lefel 2 yn llwyddiannus, gan gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Mae gofyn i bob ymgeisydd ymgymryd â phrosiect mynediad, ac mae’n rhaid iddynt ei gwblhau a llwyddo ynddo.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
I gyflawni’r cymhwyster Diploma (blwyddyn 1), mae’n rhaid i chi lwyddo mewn 9 uned. Mae Uned 8, “Datblygu prosiect Celf a Dylunio,” yn caniatáu i chi ddangos yr holl ddysgu o’r unedau eraill. Rhoddir graddau Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ar gyfer yr uned yma, ac mae’n pennu gradd gyffredinol y cymhwyster, gydag asesiad mewnol ac allanol.

I gyflawni’r cymhwyster Diploma Estynedig (blwyddyn 2), mae’n rhaid i chi lwyddo mewn pedair uned ychwanegol, 10,11,12 a 13. Uned 13, y cynnig prosiect mawr terfynol a’r gwireddiad mewn Celf a Dylunio, yn caniatáu i chi ddangos yr holl ddysgu o’r unedau eraill. Rhoddir graddau Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ar gyfer yr uned yma, ac mae’n pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.

Mae cyflogwyr ac Addysg Uwch yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 3. Mae’r cwrs yma yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol ac ar gyfer ceisiadau prifysgol mewn meysydd fel Cerameg, Tecstilau, Celfyddyd Gain, Graffeg, Darlunio, Dylunio Cynnyrch, Ffasiwn, Addurno Mewnol neu Ffotograffiaeth fel rhai enghreifftiau.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost