UAL Lefel 2 Diploma mewn Celf a Dylunio

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00443
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Diploma Lefel 2 mewn Celf a Dylunio yn gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd, wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n angerddol am gelf a dylunio. Mae'r cymhwyster yma yn darparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth a hyfforddiant pellach mewn meysydd amrywiol o fewn celf a dylunio, gan gynnwys Celfyddyd Gain, Celfyddyd Ddigidol, Gwneud Printiau, Cerameg, Ffotograffiaeth, Animeiddio ac eraill.

Cynnwys a Strwythur y Cwrs
Mae'r rhaglen yn cynnig profiad dysgu trochol, gan eich cyflwyno i weithgareddau hanfodol mewn celf a dylunio, megis ymchwil, datblygu syniadau, defnyddio sgiliau technegol, a gwerthuso. Byddwch chi’n archwilio deunyddiau, dulliau a phrosesau sy'n cefnogi gweithgareddau celf a dylunio, gan ddatblygu sgiliau technegol cysylltiedig. Bydd y cwrs yn eich paratoi chi at astudiaethau Lefel 3 a gyrfa yn niwydiant Celf a Dylunio.

Byddwch chi'n ennill sgiliau trwy amrywiaeth o weithgareddau, gan weithio mewn 2D, 3D a 4D. Mae hyn yn cynnwys lluniadu o arsylwadau, peintio, gwneud crefftau, tecstilau, celf ddigidol, animeiddio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a cherameg. Bydd cyfleoedd i gydweithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr sy'n ymarfer eu gyrfa, a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol trwy ymweliadau addysgol.

Mae'r cwrs wedi'i strwythuro'n dair cam:
- Cam 1 (Medi i Dachwedd): Byddwch chi’n archwilio gwahanol feysydd o'r diwydiannau creadigol trwy weithdai, gan ddysgu ystod eang o sgiliau a thechnegau, dulliau ymchwil effeithiol, a chyflwyno portffolio.
- Cam 2 (Tachwedd i Chwefror): Byddwch chi'n cwblhau prosiectau mewn 2D, 3D, a 4D, gan ddysgu cynllunio a gweithredu prosiectau celf a dylunio llwyddiannus wrth wella'ch sgiliau i baratoi ar gyfer y Prosiect Mawr Terfynol.
- Cam 3 (Mawrth i Fehefin): Gydag arweiniad eich tiwtor, byddwch chi’n dewis llwybr arbenigol ac yn cwblhau eich prosiect eich hun yn seiliedig ar thema benodol. Caiff y prosiect yma ei asesu'n fewnol ac yn allanol a'i raddio fel Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth, gan bennu gradd derfynol eich cymhwyster.

Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, byddwch chi’n cyflawni Diploma Lefel 2 UAL mewn Celf a Dylunio.

Datblygiad Saesneg a Mathemateg
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo i symud ymlaen at waith neu addysg uwch. Mae pob cwrs yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at Lefel 2, gan gyflawni Gradd C/4 TGAU yn ddelfrydol os nad ydych chi wedi'i chael eisoes. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn sylweddol yn y farchnad swyddi a bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch.

4 TGAU graddau D/3 gan gynnwys pwnc sy’n gysylltiedig â Chelf a Dylunio a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu gwblhau rhaglen Lefel 1 yn llwyddiannus, gan gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Mae gofyn i bob ymgeisydd ymgymryd â phrosiect mynediad, ac mae’n rhaid iddynt ei gwblhau a llwyddo ynddo.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Asesir trwy waith cwrs a chwblhau prosiectau a phortffolios.

Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 2 ac mae’n eich paratoi ar gyfer gweithio yn y Diwydiannau Creadigol. Yn aml, mae myfyrwyr llwyddiannus yn symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 mewn Celf a Dylunio ac yna gallan nhw ddilyn astudiaethau Addysg Uwch a gyrfaoedd mewn meysydd amrywiol fel:

Hysbysebu
Animeiddio
Pensaernïaeth
Therapydd Celf
Ceramegydd
Dylunydd Digidol
Dylunydd Ffasiwn
Hyrwyddwr/Steilydd Ffasiwn
Gwneuthurwr ffilmiau
Artist Cain
Dylunydd Gemau
Dylunydd Cynnyrch
Dylunydd Graffeg
Darlunydd
Dylunydd Tu Mewn Adeiladau
Artist Amlgyfrwng
Ffotograffydd
Dylunydd Setiau
Effeithiau Arbennig
Addysgu
Dylunydd Tecstilau
Dylunydd Gweledol
Dylunio Gwefannau

Mae diwydiannau creadigol y DU yn cyfrannu dros £124 biliwn yn flynyddol i’r economi ac yn cyflogi bron2.4 miliwn o bobl.

Some courses may require kit/uniform to be purchased. Please see attached kit list for further information.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost