Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01501
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Celf a Dylunio, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i ddarganfod eich creadigrwydd a chymryd y cam cyntaf at addysg bellach mewn Celf? Mae ein rhaglen Lefel Mynediad Celf wedi'i chynllunio ar eich cyfer chi! Bydd y cwrs hwn gyda chefnogaeth lawn yn eich helpu i chwalu unrhyw rwystrau i ddysgu ac yn eich galluogi i ffynnu'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd. Byddwch yn ennill yr hyder i gyflawni eich potensial llawn ac i baratoi ar gyfer eich camau nesaf mewn dysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Yn y cwrs hwn byddwch yn datblygu eich sgiliau celf mewn amgylchedd croesawgar a chreadigol. Bydd hefyd yn gyfle i roi hwb i’ch sgiliau Saesneg a Mathemateg a phan fyddwch chi'n barod bydd cyfle i chi ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Byddwch yn barod ar gyfer llawer o dasgau ymarferol a fydd yn gwella eich sgiliau llythrennedd digidol!

Eich Siwrnai a’ch Cymorth
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal deirgwaith yr wythnos am flwyddyn. Bydd gennych chi Anogwr Bugeiliol pwrpasol a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich amser ar y rhaglen. Mi fyddan nhw’n gwneud yn siŵr fod unrhyw gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar gael cyn i chi ddechau ac os bydd unrhyw anghenion cymorth newydd yn codi mi fyddan nhw’n cael eu hymgorffori yn eich rhaglen i’ch helpu chi lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad felly nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer mynediad i’r cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau oll fydd eich graddau, po fwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
I’n helpu ni ddeall eich pwynt dechrau bydd rhaid i chi wneud asesiadau diagnostig WEST ar gyfer Saesneg a Mathemateg. Byddwch yn gweithio at ddiplomâu lefel Mynediad i’ch helpu gyda symud ymlaen at y lefel nesaf o ddysgu.

Gall y cymwysterau hyn eich helpu i symud ymlaen at addysg bellach neu ddysgu yn y gwaith!
Drwy gydol y cwrs, byddwn ni’n eich helpu chi i gynllunio eich camau nesaf. Gall y rhaglen hon agor drysau i gwrs lefel uwch mewn maes yr ydych yn ei garu, eich paratoi at gyflogaeth neu hyd yn oed arwain at raglen yn y gymuned.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost