Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01465 |
Lleoliad | Ffordd y Bers |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser (5 diwrnod yr wythnos). Dyma raglen 40 wythnos. Treulir 35 wythnos yn y coleg am hyd at 30 awr yr wythnos ar y prif gymhwysterau, tra bydd gweddill y cwrs yn gymysgedd o brofiad gwaith ac ymweliadau diwydiannol. Yn ogystal, mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau lleoliadau profiad gwaith gyda chwmni. Bydd yr amserlen yn cael ei threfnu ar gyfer hanner tymor y coleg. |
Adran | Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Crëwch eich Dyfodol Cyn-brentisiaeth Lefel 2 mewn Peirianneg (Rhaglen Estynedig)
Ydych chi'n barod i ddechrau ar daith ymarferol i fyd peirianneg? Mae ein Cyn-Brentisiaeth Peirianneg Lefel 2 (Uwch) yn rhaglen gynhwysfawr pum niwrnod yr wythnos, wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau ymarferol a damcaniaethol sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn Crefft a Chynnal a Chadw. Byddwch chi’n ennill profiad ymarferol helaeth, gan feistroli ystod eang o dechnegau peirianneg fecanyddol. Mae'r cwrs hwn yn dilyn yr un llwybr trylwyr â Phrentisiaeth Lefel 2, gan eich arfogi â'r cymwysterau i ymuno â'r diwydiant yn uniongyrchol ar Lefel 3 trwy Raglen Rhyddhau am y Diwrnod.
Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Gyflawni
Byddwch chi’n ennill dau gymhwyster uchel eu parch, gan roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer eich gyrfa beirianneg:
Tystysgrif / Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg (2850-20)
(Unedau Enghreifftiol)
● Gweithio mewn Peirianneg
● Egwyddorion Technoleg Peirianneg
● Cydrannau Peiriant gan ddefnyddio Technegau Troi
● Defnyddio Prosesau Gweithgynhyrchu Gyda Chymorth Cyfrifiadur
● Egwyddorion Technoleg Cynnal a Chadw
● Cydosod a Chynnal a Chadw Systemau Pŵer Hylif
Diploma NVQ City & Guilds Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (7682-20)
(Unedau Enghreifftiol)
● Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
● Ymgymryd â gweithgarwch peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
● Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol
● Cynhyrchu Cydrannau gan Ddefnyddio Technegau Ffitio â Llaw
● Paratoi a defnyddio turniau ar gyfer gweithrediadau turnio
● Paratoi a phrofi rhaglenni offer peiriannau CNC
● Cydosod a Phrofi Systemau Pŵer Hylif
Y tu hwnt i fanylion peirianneg, byddwch chi hefyd yn gwella sgiliau craidd hanfodol:
● Llythrennedd: Hogi eich sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfathrebu.
● Rhifedd: Cryfhau eich dealltwriaeth fathemategol ar gyfer cymwysiadau peirianneg.
● Llythrennedd Digidol: Dod yn hyfedr yn yr offer digidol a ddefnyddir mewn peirianneg fodern.
Ennill Profiad yn y Byd Go Iawn
Mae'r cwrs cyn-brentisiaeth hwn sy’n seiliedig ar theori a gwaith ymarferol yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ragori yn y sector Peirianneg. Byddwch chi hefyd yn ennill profiad gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith, gan eich paratoi ar gyfer gofynion y gweithle modern.
Barod i adeiladu dyfodol cadarn? Gwnewch gais rŵan i ddechrau eich taith i lwyddiant!

Fel sy’n ofynnol gan Gyngor Sgiliau’r Sector.
4 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.

Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu’n barhaus drwy aseiniadau yn y coleg, a fydd yn cael eu casglu fel tystiolaeth portffolio i fodloni gofynion y corff dyfarnu.
Byddwch chi’n sefyll arholiadau wedi eu gosod a’u marcio yn allanol ar adegau allweddol drwy gydol y cwrs. Bydd eich Sgiliau Hanfodol hefyd yn cael eu hasesu’n barhaus drwy gydol y cwrs.

Ar ôl cwblhau, gall cyfleoedd cyflogaeth hyfforddeion cyffrous fod ar gael mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau crefft, gan gynnwys:
● Ffitiwr
● Peiriannwr
● Peiriannwr CNC
● Mecanyddol / Cydosod
● Niwmateg
Parhewch â’ch Taith gyda Phrentisiaeth!
Os byddwch chi’n sicrhau cyflogaeth, bydd gennych chi’r cyfle gwych i barhau â’ch astudiaethau ac ennill cymwysterau pellach fel rhan o brentisiaeth. Mae hyn yn golygu y gallwch chi barhau i feithrin eich arbenigedd wrth ennill profiad gwerthfawr yn y gwaith.
Barod i lansio eich gyrfa mewn peirianneg?
Bydd y cymhwyster hwn yn eich arfogi â’r sgiliau ymarferol a’r gydnabyddiaeth yn y diwydiant i lwyddo!

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025