Cerddoriaeth - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00070
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n barod i droi eich angerdd yn yrfa werth chweil?
Os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth ac eisiau datblygu eich sgiliau mewn cyfansoddi, perfformio a chynhyrchu, mae ein cwrs Cerddoriaeth Safon Uwch yn ddelfrydol i chi. Mae'r cwrs heriol, gwerth chweil a phleserus hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i gyrraedd eich potensial llawn ac agor drysau i gyfleoedd cyffrous yn y diwydiannau creadigol. Byddwch chi'n datblygu'r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw a byddwch chi’n barod ar gyfer gyrfa werth chweil neu astudiaeth bellach yn y celfyddydau perfformio.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau trwy amrywiaeth o weithgareddau diddorol. Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n ymwneud â:
Cyfansoddi a gwerthuso
Perfformiad unigol ac ensemble
Gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol, ac ymweliadau addysgol i’ch cynorthwyo chi gyda’ch astudiaethau.

I fod yn llwyddiannus yn y cwrs hwn a'r diwydiant cerddoriaeth ehangach, bydd angen lefel uchel o sgil gerddorol arnoch chi mewn perfformio neu gyfansoddi. Yn ogystal â bod â’r gallu i fod yn greadigol ac yn hyblyg, bydd angen i chi hefyd datblygu eich set sgiliau i gynnwys llythrennedd uwch a galluoedd digidol er mwyn hyrwyddo'ch hun.

Sylwch fod y cwrs hwn yn cael ei addysgu ar safle Glannau Dyfrdwy a bydd angen teithio. Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael i drafod unrhyw drefniadau teithio gyda chi.


5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg, ynghyd â’r meini prawf canlynol:

Gradd C/4 TGAU mewn Cerddoriaeth, neu Radd 5 Theori a gallu darllen nodiant cerddoriaeth ac wedi llwyddo i gael Gradd 4 mewn arholiad ymarferol gydag o leiaf un offeryn.

Nodyn: Lle nad oes gan fyfyriwr cymwysterau papur, mae’n rhaid iddynt gyfarfod â’r athro i drafod. Rydyn ni’n ymwybodol dydy rhai myfyrwyr heb gael y cyfle i gwblhau TGAU Cerddoriaeth cyn dechrau ar eu cymwysterau Safon Uwch.

Mae angen i fyfyrwyr drefnu cael gwersi offerynnol/lleisiol unigol gan fod perfformio yn rhan hanfodol o’r cwrs hwn. Gallai’r adran helpu gyda hyn.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n ennill y cymhwyster hwn trwy gyfuniad o waith cwrs, perfformio ac arholiad ysgrifenedig ar gyfer Safon UG a Safon Uwch. Bydd eich graddau terfynol yn cael eu pennu yn ôl y marciau a gewch chi yn y meysydd hyn.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd gennych chi’r sgiliau i barhau â’ch astudiaethau yn y brifysgol neu symud i gyflogaeth yn y diwydiannau celfyddydau perfformio.
Mae’r cyfyngiadau COVID diweddar wedi tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’r celfyddydau’n ei chwarae yn ein bywydau, ac mae’r diwydiant cerddoriaeth yn faes hynod fedrus a chreadigol. Mae’n cyfrannu biliynau i economi’r DU ac mae’n faes lle mae’r DU yn arweinydd byd-eang.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost