Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd) - Safon Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA09149
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i archwilio cwestiynau dwys a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer eich dyfodol? Bydd y cwrs Safon Uwch hwn mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn herio’ch ffordd o feddwl, ehangu eich safbwyntiau ac yn eich paratoi chi ar gyfer ystod eang o gyrsiau prifysgol a llwybrau gyrfa cyffrous.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Archwilio
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddyfnhau eich dealltwriaeth o Athroniaeth, Moeseg a chredoau Crefyddol, gan ganolbwyntio ar un o brif grefyddau'r byd. Byddwch chi’n datblygu sgiliau academaidd a chyfathrebu gwerthfawr sydd mewn galw mawr yn y brifysgol ac yn y byd proffesiynol.

Blwyddyn 1: Gosod y Sylfeini
Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch chi’n mynd i’r afael â’r canlynol:
*Cyflwyniad i Grefydd: Archwilio ffigurau crefyddol allweddol, testunau cysegredig, cysyniadau craidd, ac arferion crefyddol un o chwe phrif grefydd y byd (Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam, Hindŵaeth, Bwdhaeth neu Sikhiaeth).
* Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd: Ymdrin â dadleuon dros fodolaeth Duw, natur heriol problem drygioni, a natur ac arwyddocâd profiad crefyddol.
* Crefydd a Moeseg: Archwilio meddwl a damcaniaethau moesegol, gan eu cymhwyso i faterion cyfoes fel erthyliad, arbrofi ar anifeiliaid, a pherthnasoedd cyfunrywiol.

Blwyddyn 2: Dyfnhau Eich Dealltwriaeth
Bydd eich ail flwyddyn yn adeiladu ar y sylfeini hyn, gan ganiatáu i chi:
* Astudiaeth Fanwl o Grefydd: Archwilio un o chwe phrif grefydd y byd gan archwilio ffigurau crefyddol a thestunau cysegredig, ac archwilio datblygiadau hanesyddol a chymdeithasol arwyddocaol sydd wedi llunio meddwl a hunaniaeth grefyddol, megis dylanwad seciwlariaeth a ffeministiaeth.
* Datblygu Eich Dealltwriaeth Foesegol: Ymchwilio i iaith a meddwl moesegol, yn ogystal ag ymchwilio i ddatblygiad damcaniaethau fel Cyfranoliaeth, a thrafodwch ddadleuon moesegol cyfoes, gan gynnwys ewyllys rydd yn erbyn penderfyniaeth.
* Datblygu Eich Ymwybyddiaeth Athronyddol: Ymgysylltu â heriau modern i gred grefyddol, fel Atheistiaeth Newydd ac esboniadau seicolegol dros grefydd. Byddwch chi hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth o brofiad crefyddol ymhellach ac yn archwilio cymhlethdodau mewn iaith grefyddol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Mae asesu mewnol yn cynnwys ymchwil, profion/cwisiau rheolaidd a chwestiynau sy’n seiliedig ar arholiadau, gydag arholiadau ffug yn nodwedd allweddol.

Mae asesu allanol yn seiliedig ar arholiadau (dim gwaith cwrs), gydag arholiadau UG ym mis Mai yn y flwyddyn gyntaf, ac arholiadau Safon Uwch ym mis Mehefin yn yr ail flwyddyn. Mae’r arholiadau’n cynnwys traethodau strwythuredig sy’n cynnwys gwybodaeth (A01) a dadansoddi’r (A02) deunydd a astudiwyd.
Mae astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy iawn sy’n cael eu gwerthfawrogi ar draws llawer o ddiwydiannau. Byddwch chi’n dysgu sut i ymchwilio’n effeithiol, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol, a chyflwyno’ch syniadau’n glir ac yn berswadiol. Byddwch chi hefyd yn gwella eich sgiliau ysgrifennu traethodau, meddwl dadansoddol a chyfathrebu trwy drafodaeth a dadl.

Dyma’r sgiliau sy’n agor drysau i ystod eang o gyrsiau yn y brifysgol. Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio pynciau amrywiol, gan fod natur eang y cwrs hwn—sy’n cwmpasu athroniaeth, moeseg, hanes, gwleidyddiaeth, y gyfraith, diwylliant a chrefydd—yn darparu sylfaen ardderchog. Byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd fel y Gyfraith, Addysg, Sefydliadau Anllywodraethol (NGOs), a Llywodraeth. Mae’r cwrs hwn yn sail ardderchog ar gyfer unrhyw yrfa sy’n ymwneud â phobl, gan gynnig cipolwg ar gredoau diwylliannol a chrefyddol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost