Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01444 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd, gyda 3 diwrnod yr wythnos yn y coleg a 10 diwrnod mewn lleoliad profiad gwaith mewn practis milfeddygol. |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi’n barod i droi eich angerdd dros anifeiliaid yn yrfa werth chweil? Bydd ein Tystysgrif Lefel 2 ar gyfer Cymorthyddion Nyrsio Anifeiliaid yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol i chi er mwyn eich galluogi chi i ffynnu yn y diwydiant gofal milfeddygol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o'r diwydiant gofal milfeddygol. Mae’n datblygu eich cymhwysedd ymarferol a'ch sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid, gan eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y sector hanfodol hwn. Byddwch chi’n cael profiad ymarferol o ofalu am ystod eang o anifeiliaid yn ein Canolfan Gofal Anifeiliaid rhagorol, sy'n gartref i dros gant o rywogaethau, gan gynnwys cwningod, moch, nadroedd, madfallod a chnofilod.
Byddwch chi’n datblygu sgiliau a dealltwriaeth mewn:
*Trin ac atal anifeiliaid mewn amgylchedd milfeddygol
*Gofalu am anifeiliaid mewn amgylchedd milfeddygol
*Egwyddorion sylfaenol nyrsio a rheoli heintiau
*Anatomeg a ffisioleg anifeiliaid
*Cyflawni dyletswyddau gweinyddol a gofal i gwsmeriaid mewn lleoliad milfeddygol
Er mwyn gwneud y dysgu mor ddiddorol â phosibl, byddwn ni’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol a gwaith grŵp, a bydd tua 25% o’r gwaith yn ymarferol. Byddwch chi hefyd yn defnyddio technoleg ddysgu fodern i wella'ch astudiaethau.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan hanfodol o'r rhaglen, a byddwn ni’n eich cefnogi chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ac ennill cymwysterau.

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth
neu
Wedi pasio Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd
Rhaid i chi fod wedi sicrhau lleoliad profiad gwaith mewn practis milfeddygol am 10 diwrnod i’w gwblhau yn ystod eich cwrs a chwblhau 1 wythnos yn y lleoliad cyn dechrau’r cwrs ym mis Medi.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.

Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, tystiolaethau gan dystion, ac astudiaethau achos. Byddwn ni’n eich helpu chi i baratoi drwy ddefnyddio amrywiaeth o arholiadau ffug, asesiadau a sesiynau ymarfer anffurfiol.
Mae’n hanfodol eich bod chi’n cael profiad go iawn mewn amgylchedd gofal milfeddygol. Bydd angen i chi gyflawni o leiaf 10 diwrnod o brofiad gwaith mewn practis milfeddygol, ac mae’n hanfodol eich bod chi’n rhagweithiol am fynd ati i sicrhau’r lleoliad hwn cyn i’r cwrs ddechrau.
Efallai bydd dysgu Saesneg a Mathemateg yn cynnwys sefyll arholiadau.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer amrywiaeth o swyddi yn y diwydiant gofal anifeiliaid.
Gallech chi symud ymlaen i:
*Prentisiaeth Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol
*Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid
*Prentisiaeth yn y Gwaith Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
Sylwch: Os ydych chi’n dymuno symud ymlaen at gymhwyster Nyrsio Milfeddygol Lefel 3 a chofrestru fel Nyrs Filfeddygol dan hyfforddiant, bydd angen i chi fodloni meini prawf Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS).
Gallech chi ddod o hyd i waith mewn:
*Practis milfeddygol
*Sŵau
*Canolfannau achub anifeiliaid
*Amrywiaeth o ddisgyblaethau gofal anifeiliaid eraill

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025