Dyfarniad L1 C&G mewn Gofal Anifeiliaid yn y Gwaith

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA06346
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae dysgwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.

Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 9 a 12 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r lefel hwn yn ddelfrydol ar gyfer dechrau gyrfa mewn gofal anifeiliaid. Rydych eisiau dangos bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd ei angen arnoch i weithio mewn rôl oruchwyliol. Efallai eich bod hefyd yn chwilio am gymhwyster i'ch paratoi ar gyfer hyfforddiant pellach neu symud ymlaen i gymwysterau Lefel 2.

Ar gyfer y dyfarniad, tystysgrif a’r diploma mae’n rhaid i chi gwblhau ystod o unedau hanfodol a dewisol. Gall enghreifftiau o’r unedau gynnwys:

*Helpu gyda gofalu am anifeiliaid ac egwyddorion gofalu am anifeiliaid.
*Egwyddorion delio gyda bwyd i anifeiliaid bychain a helpu gyda bwyd i anifeiliaid bychain
*Helpu gyda llety anifeiliaid
*Cynnal diogelwch eich hun ac eraill yn y gweithle
*Helpu gyda chynnal strwythurau ac arwynebau ac egwyddorion o gynnal strwythurau ac arwynebau.
*Darparu cyfleoedd rheoledig i ymarfer ar gyfer anifeiliaid
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid oes unrhyw ofynion sylfaenol, ond bydd asesiad cwmpas swydd ac asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cwrs cywir yn cael ei ddewis.
Mae asesu yn y gweithle yn digwydd trwy gydol y rhaglen, ochr yn ochr â chwestiynu ysgrifenedig a/neu ar lafar, a ddefnyddir i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gall bodloni un o’r cymwysterau hyn eich helpu chi i weithio mewn swyddi fel:

Technegydd/Cymhorthydd Anifeiliaid
Gweithiwr canolfan/lloches anifeiliaid
Gweithiwr llety cŵn/cathod
Cymhorthydd siop anifeiliaid anwes

Gall ymgeiswyr llwyddiannus ystyried symud ymlaen at Ddyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn y Gwaith.
Mewn llawer o achosion, efallai y bydd cyllid ar gael tuag at gost y cwrs.​ Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost