Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Estynedig Technegol Uwch lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00313 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser. |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae ein Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn Rheoli Anifeiliaid wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o'r diwydiant anifeiliaid, gan roi’r sgiliau uwch, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo. Bydd y cwrs llawn amser dwy flynedd hwn yn eich trochi ym myd gofal anifeiliaid, gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd cyffrous mewn sector sy'n tyfu.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol amhrisiadwy a dealltwriaeth gynhwysfawr o reoli anifeiliaid, gan weithio gydag ystod amrywiol o dros gant o rywogaethau yn ein Canolfan Gofal Anifeiliaid ragorol. Mae hyn yn cynnwys popeth o farmosetiaid a tsintsilas i amrywiol ymlusgiaid, pysgod, adar, amffibiaid, infertebratau ac anifeiliaid fferm.
Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:
*Iechyd Anifeiliaid: Archwilio llety anifeiliaid, bwydo, iechyd a chlefydau
*Trin anifeiliaid: Ymarfer sut i drin ac atal anifeiliaid gwahanol
*Ymddygiad a Lles anifeiliaid: Deall ymddygiad anifeiliaid, cyfathrebu, sicrhau safonau lles gorau posibl a hyfforddiant effeithiol
*Y wyddoniaeth y tu ôl i ofal anifeiliaid: Ymchwilio i fioleg, anatomeg, ffisioleg, geneteg, maeth a bridio
*Bywyd gwyllt ac ecoleg: Dysgu am fywyd gwyllt, adsefydlu, ecoleg a chadwraeth
*Canolbwyntio ar sŵau ac anifeiliaid egsotig: Yn eich ail flwyddyn, byddwch chi’n canolbwyntio ar reoli casgliadau sŵolegol, gyda meysydd ffocws penodol ar rywogaethau dyfrol, adar a rhywogaethau egsotig.
*Datblygiad Proffesiynol: Datblygu sgiliau hanfodol mewn rheoli busnes, gofal cwsmeriaid, marchnata manwerthu a sgiliau ystadau
Byddwch chi'n dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau deniadol, gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol a grŵp, a hanner diwrnod yr wythnos o brofiad ymarferol. Rydym hefyd yn integreiddio technoleg ddysgu fodern i wneud eich profiad mor hwyl ac effeithiol â phosibl.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan hanfodol o'r rhaglen hon. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, a darparu cyfleoedd i ailsefyll arholiadau TGAU os oes angen. Byddwch hefyd yn cyflawni cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru. Mae'r cwrs hwn yn cyfateb i astudio 3 neu 4 cymhwyster Safon Uwch, yn dibynnu ar eich llwybr dewisol.

Llwybr 1080 (cyfwerth â 4 cymhwyster Safon Uwch) – 5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg / Rhifedd a Gwyddoniaeth
Llwybr 720 (cyfwerth â 3 cymhwyster Safon Uwch) – 5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu drwy arholiad ac aseiniad synoptig ym mhob blwyddyn, ynghyd ag asesiadau dan reolaeth a phrofion eraill, gyda chefnogaeth ar hyd y ffordd ar ffurf ymarfer a ffug arholiadau.
Byddwch chi’n gwneud lleoliad profiad gwaith allanol yn y diwydiant anifeiliaid yn ystod eich blwyddyn gyntaf i’ch helpu i ddysgu’n effeithiol a rhoi eich sgiliau ar waith mewn lleoliad go iawn.
I symud ymlaen i’r ail flwyddyn, bydd angen i chi gwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus.

Mae’r cwrs hwn yn agor drysau i ystod eang o lwybrau gyrfa cyffrous yn y diwydiant gofal anifeiliaid a thu hwnt:
*Mynd ymlaen i Brifysgol: Mae llawer o’n dysgwyr yn mynd ymlaen i astudio pynciau fel sŵoleg, bioleg cadwraeth, nyrsio milfeddygol, neu les ac ymddygiad anifeiliaid yn y brifysgol. Gallech barhau â’ch astudiaethau yng Ngholeg Cambria Llaneurgain drwy ddilyn Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Rheolaeth Anifeiliaid. Cofiwch, bydd angen i chi ennill y pwyntiau UCAS gofynnol ar gyfer eich cwrs dewisol. (Sylwch: er ei fod yn werthfawr, nid ydy’r cwrs hwn yn llwybr uniongyrchol i wyddoniaeth filfeddygol yn gyffredinol.)
*Symud ymlaen i Brentisiaeth yn y Gwaith mewn Gofal Anifeiliaid.
*Cyflogaeth: gallech ddod o hyd i waith mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys sŵau, cadwraeth bywyd gwyllt, practisau llawfeddygaeth filfeddygol, canolfannau achub anifeiliaid, siopau anifeiliaid anwes, addysg a hyfforddiant neu sefydliadau lles anifeiliaid.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025