Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA87897 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae dysgwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 18 a 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny. |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y rhaglen hon yw darparu cymhwyster sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd. Mae’n adlewyrchu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud swydd o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid, ac yn dangos bod y dysgwr yn gymwys yn y maes hwn o waith. Mae’r llwybr Hyfforddi Anifeiliaid yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn lleoliad gwaith gofal anifeiliaid, sydd hefyd yn ymgymryd ag elfennau o hyfforddi anifeiliaid. Fodd bynnag, mae llwybrau eraill ar gael, gan gynnwys Twtio Cŵn, Gofal a Lles Anifeiliaid, Gofal Anifeiliaid Anwes a Manwerthu, Sŵau a Sefydliadau Bywyd Gwyllt, Gorfodaeth Lles Anifeiliaid, Wardeniaid Cŵn/Anifeiliaid, ac Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant.
Mae'r lefel hon yn ddelfrydol os ydych chi wedi gweithio ym maes gofal anifeiliaid ers peth amser. Mae gennych chi ddigon o brofiad, ac rydych chi eisiau dangos bod gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i wneud eich swydd yn dda. Gall hyn fod yn rhan o’ch datblygiad proffesiynol, neu baratoi ar gyfer lefel uwch o hyfforddiant.
I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol a dewisol, sy’n gyfanswm o 54 neu ragor o gredydau: Mae’r union ddewis o unedau dewisol gallwch chi ddewis ohonynt ddibynnu ar eich swydd, a gallai gael ei deilwra i fodloni eich anghenion hyfforddiant, ac anghenion eich cyflogwr. Mae’r unedau dewisol yn cynnwys:
*Dewis anifeiliaid ar gyfer hyfforddi
*Dylunio rhaglenni hyfforddiant unigol i anifeiliaid
*Gweithredu rhaglenni hyfforddiant unigol i anifeiliaid
*Gwerthuso a gwella rhaglenni hyfforddiant sy’n galluogi anifeiliaid i gyflawni amcanion penodol
*Cynllunio, goruchwylio a rheoli symud anifeiliaid.
*Hyrwyddo, monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeled eich gweithle
Os ydynt yn cwblhau'r cwrs hwn fel rhan o Fframwaith Prentisiaeth, mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd â'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar lefel 2, mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid oes unrhyw ofynion sylfaenol, ond bydd asesiad cwmpas swydd ac asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cwrs cywir yn cael ei ddewis.
Mae asesu yn yr ardal waith yn digwydd trwy gydol y rhaglen, ochr yn ochr â chwestiynu ysgrifenedig a/neu lafar, a ddefnyddir i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Rhaid cwblhau aseiniad hefyd. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gall bodloni un o’r cymwysterau hyn eich helpu chi i weithio mewn swyddi fel:
Ciper
Gwas stabl
Technegydd anifeiliaid
Ymddygiadwr anifeiliaid cymhwysol
Hyfforddwr cŵn cymorth
Triniwr cŵn
Hyfforddwr cŵn
Gweithiwr llety cŵn
Ceidwad sw
Ciper
Gwas stabl
Technegydd anifeiliaid
Ymddygiadwr anifeiliaid cymhwysol
Hyfforddwr cŵn cymorth
Triniwr cŵn
Hyfforddwr cŵn
Gweithiwr llety cŵn
Ceidwad sw
Mewn llawer o achosion, efallai y bydd cyllid ar gael tuag at gost y cwrs. Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025