City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gofalu am Anifeiliaid yn Seiliedig ar Waith (Gofal a Lles Anifeiliaid)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA12743
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae dysgwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.

Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau yn dibynnu ar lawer o ffactorau, ond mae’r rhan fwyaf yn llwyddo o fewn 24 mis.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y rhaglen hon yw darparu cymhwyster sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd. Mae’n adlewyrchu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud swydd o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid, ac yn dangos bod y dysgwr yn gymwys yn y maes hwn o waith. Y llwybr Gofal a Lles Anifeiliaid ydy’r llwybr sy’n cael ei ddewis amlaf, ac mae’n addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn amgylchedd gwaith gofal anifeiliaid. Fodd bynnag, mae llwybrau eraill ar gael, gan gynnwys Sŵau/Sefydliadau Bywyd Gwyllt, Twtio Cŵn, Gofal a Manwerthu Anifeiliaid Anwes, Hyfforddi Anifeiliaid a Thrin Cŵn Gwasanaeth.

Mae'r lefel hon yn briodol os oes gennych chi rywfaint o wybodaeth a'ch bod am brofi eich cymhwysedd yn eich rôl, a gallai eich helpu i symud o swydd iau i swydd uwch. Efallai eich bod hefyd yn chwilio am gymhwyster i'ch paratoi ar gyfer symud ymlaen i gymwysterau Lefel 3.

I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol a dewisol, sy’n gyfanswm o 44 neu ragor o gredydau: Gall yr union ddewis o unedau dewisol y gallwch ddewis ohonynt ddibynnu ar eich swydd. Mae enghreifftiau o’r unedau’n cynnwys:

Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch.
Cyfrannu at werthuso a gweithredu rhaglenni hyfforddi anifeiliaid sylfaenol
Rheoli ac atal anifeiliaid
Cynnal glanweithdra a bioddiogelwch yr amgylchedd gwaith gofal anifeiliaid
Darparu cyfleoedd i anifeiliaid gael rhyddid i symud o gwmpas
Paratoi a thwtio anifeiliaid
Rhoi bwyd a dŵr i anifeiliaid

Os ydynt yn cwblhau'r cwrs hwn fel rhan o Fframwaith Prentisiaeth, mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd â'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar lefel 1, mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid oes unrhyw ofynion sylfaenol, ond bydd asesiad cwmpas swydd ac asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cwrs cywir yn cael ei ddewis.
Mae asesu yn yr ardal waith yn digwydd trwy gydol y rhaglen, ochr yn ochr â chwestiynu ysgrifenedig a/neu lafar, a ddefnyddir i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gall bodloni un o’r cymwysterau hyn eich helpu chi i weithio mewn swyddi fel:

Cymhorthydd twtio cŵn
Gweithiwr fferm (da byw)
Gwas stabl
Technegydd anifeiliaid
Hyfforddwr cŵn cymorth
Triniwr cŵn
Gweithiwr llety cŵn
Cymhorthydd siop anifeiliaid anwes

Gall ymgeiswyr llwyddiannus ystyried symud ymlaen at Ddiploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid yn y Gwaith.
Mewn llawer o achosion, efallai y bydd cyllid ar gael tuag at gost y cwrs.​ Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost