Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gofalu am Anifeiliaid yn Seiliedig ar Waith (Hyfforddiant Anifeiliaid)
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA12745 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae dysgwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau yn dibynnu ar lawer o ffactorau, ond mae’r rhan fwyaf yn llwyddo o fewn 24 mis. |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y rhaglen hon yw darparu cymhwyster sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd. Mae’n adlewyrchu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud swydd o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid, ac yn dangos bod y dysgwr yn gymwys yn y maes hwn o waith. Mae’r llwybr Hyfforddi Anifeiliaid yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn lleoliad gwaith gofal anifeiliaid, sydd hefyd yn ymgymryd ag elfennau o hyfforddi anifeiliaid. Fodd bynnag, mae llwybrau eraill ar gael, gan gynnwys Sŵau/Sefydliadau Bywyd Gwyllt, Twtio Cŵn, Gofal a Manerthu Anifeiliaid Anwes, Gofal a Lles Anifeiliaid a Thrin Cŵn Gwasanaeth.
Mae'r lefel hon yn briodol os oes gennych chi rywfaint o wybodaeth a'ch bod am brofi eich cymhwysedd yn eich rôl, a gallai eich helpu i symud o swydd iau i swydd uwch. Efallai eich bod hefyd yn chwilio am gymhwyster i'ch paratoi ar gyfer symud ymlaen i gymwysterau Lefel 3.
I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol a dewisol, sy’n gyfanswm o 44 neu ragor o gredydau: Gall yr union ddewis o unedau dewisol y gallwch ddewis ohonynt ddibynnu ar eich swydd. Mae enghreifftiau o’r unedau’n cynnwys:
* Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch.
* Cyfrannu at werthuso a gweithredu rhaglenni hyfforddi anifeiliaid sylfaenol
* Rheoli ac atal anifeiliaid
* Hyfforddi anifeiliaid trwy raglenni hyfforddiant sylfaenol
* Darparu cyfleoedd i anifeiliaid gael rhyddid i symud o gwmpas
* Trin anifeiliaid i’w galluogi nhw i weithio’n effeithiol
* Gofalu am anifeiliaid ar ôl iddynt fod yn gweithio
Os ydynt yn cwblhau'r cwrs hwn fel rhan o Fframwaith Prentisiaeth, mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd â'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar lefel 1, mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid oes unrhyw ofynion sylfaenol, ond bydd asesiad cwmpas swydd ac asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cwrs cywir yn cael ei ddewis.
Mae asesu yn yr ardal waith yn digwydd trwy gydol y rhaglen, ochr yn ochr â chwestiynu ysgrifenedig a/neu lafar, a ddefnyddir i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gall bodloni un o’r cymwysterau hyn eich helpu chi i weithio mewn swyddi fel:
*Technegydd anifeiliaid
*Hyfforddwr cŵn cymorth
*Triniwr cŵn
*Hyfforddwr anifeiliaid cynorthwyol
*Gweithiwr llety cŵn
Gall ymgeiswyr llwyddiannus ystyried symud ymlaen at Ddiploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid yn y Gwaith.

Mewn llawer o achosion, efallai y bydd cyllid ar gael tuag at gost y cwrs. Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025