Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Mynediad Cyfunol i Ddiploma AU - Addysgu, Gwaith Cymdeithasol, Cwnsela a Gwyddorau Cymdeithasol (Dechrau ym mis Ionawr)
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01526 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cwrs dysgu cyfunol hwn yn cynnig hyblygrwydd i gyd-fynd â’ch bywyd. Bydd gennych gyswllt wyneb yn wyneb am 53% o’r cwrs, rhwng 9:15am-6:30pm ar ddydd Mawrth. Bydd gweddill eich dysgu yn e-ddysgu ar-lein, y gallwch ei gwblhau ar amser sy’n gyfleus i chi yn ystod eich wythnos. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal o fis Ionawr i fis Rhagfyr, gyda seibiant dros yr haf. Er mwyn sicrhau eich bod chi’n llwyddo, mae gallu rheoli amser personol yn allweddol. Bydd cynllunio eich amser astudio ar-lein ac annibynnol yn cefnogi eich taith ddysgu ac yn eich helpu i gyflawni eich nodau. |
Adran | , Cwnsela, Addysgu, Asesu ac Addysg |
Dyddiad Dechrau | 13 Jan 2026 |
Dyddiad gorffen | 15 Dec 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mynediad i AU - Y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (Dysgu Cyfunol) - Dechrau ym mis Ionawr
Barod i gymryd eich cam nesaf tuag at radd prifysgol? Mae ein Diploma Mynediad i AU - Y Dyniaethau AU a Gwyddorau Cymdeithasol wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol gwerth chweil mewn ystod eang o feysydd.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Nod y diploma yw eich arfogi chi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel prifysgol ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau craidd hanfodol. Gallwch chi archwilio modiwlau fel:
* Gwaith Cymdeithasol
* Seicoleg
* Troseddeg
* Cymdeithaseg
* Hanes
* a Saesneg, ymhlith llawer o rai eraill.
Byddwch yn cael dealltwriaeth gadarn o sut mae'r pynciau hyn yn gweithio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol, gan gynnwys:
* Cyfathrebu
* Sgiliau Astudio
* Rhifedd
Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar y modiwlau penodol sy’n berthnasol i’ch taith dysgu.

TGAU Gradd C/4 mewn Saesneg neu Fathemateg, ac o leiaf Gradd D/3 yn y pwnc arall.
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.
Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ oed i astudio’r cwrs hwn.
Anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion unigol i gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Addysgu yn gofyn am radd B/6 mewn cymwysterau TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Efallai y byddwch yn cael eich cynghori i ddilyn cwrs Sgiliau Hanfodol cyn dechrau ar y cwrs Mynediad. Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i gyflawni’r lefel ofynnol o Rifedd a Chyfathrebu ar gyfer Cwrs Mynediad.

Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus trwy amrywiaeth o ddulliau, yn bennaf gwaith aseiniadau, ynghyd â rhai profion wedi’u hamseru neu sefyllfaoedd arholiadau. Byddwch yn ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Er mwyn ennill Diploma Mynediad i AU yn llwyddiannus, bydd angen i chi gyflawni 60 credyd, gan gynnwys nifer o gredydau gorfodol. Bydd eich credydau Lefel 3 yn cael eu graddio fel Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch wedi’ arfogi i symud ymlaen at gyrsiau gradd fel Addysgu, Gwaith Cymdeithasol, Saesneg, Seicoleg, Troseddeg, Cymdeithaseg, Daearyddiaeth, Hanes, Newyddiaduraeth ac mae llawer rhagor o ddewisiadau ar gael. Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth werthfawr a fydd yn eich galluogi chi i gyrchu llawer o gyrsiau prifysgol a fydd yn arwain at ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Ffordd Y Bers
11/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Iâl a Chweched Iâl
11/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Glannau Dyfrdwy & Chweched Glannau Dyfrdwy
04/03/2026
17:30
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.